Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Mae’r amddiffynfeydd arfordirol ledled blaendraeth Caerdydd mewn cyflwr gwael iawn ac maent yn erydu’n gyflym iawn.
Mae achos busnes amlinellol wedi’i
greu gyda’r nod o wella’r amddiffynfeydd arfordirol ac
afonol presennol i gynnig mwy o ddiogelwch i bobl ac eiddo yn
ne-ddwyrain Caerdydd rhag erydu arfordirol a pherygl o lifogydd, ac
i atal erydiad mewn dwy safle tirlenwi sydd wedi’u
datgomisiynu a phriffordd fabwysiedig Rover Way.
Mae llawer o’r arfordir ledled ardal y project yn erydu, a chyda chynnydd disgwyliedig yn lefel y môr yn sgil newid yn yr hinsawdd, bydd y risg o lifogydd ac erydiad yn cynyddu yn y dyfodol. Bydd y cynllun arfaethedig yn rheoli’r risg o lifogydd i 1,116 eiddo preswyl a 72 eiddo amhreswyl dros 100 mlynedd, ynghyd ag atal erydiad pellach. Mae’r cynllun yn gyfuniad o amddiffynfeydd cerrig, codi argloddiau a gosod pyst seiliau.
Ceisir cymeradwyaeth i fwrw ymlaen â’r project i’r cam Dylunio Manwl yn rhan o Raglen Reoli Risgiau Arfordirol Llywodraeth Cymru.
PENDERFYNWYD:
1. caffael dylunio ac adeiladu manwl yr amddiffyniadau arfordirol gwerth £11m.
2. Darparu cyllid ar raniad 75% gan Lywodraeth Cymru a 25% gan Gyngor Caerdydd.
3. ymrwymo’r cyllid angenrheidiol o 25% i ddarparu’r amddiffyniadau arfordirol yn unol â Rhaglen Reoli Risgiau Arfordirol.
4. ailasesu’r cynllun yn dilyn cwblhau’r dyluniad manwl i gadarnhau goblygiadau ariannol adeiladu a dichonoldeb.
Dyddiad cyhoeddi: 16/03/2018
Dyddiad y penderfyniad: 15/03/2018
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 15/03/2018 - Cabinet
Effeithiol O: 29/03/2018
Dogfennau Cefnogol: