Manylion y penderfyniad

Trafnidiaeth Allyriadau Isel: Strategaeth ar gyfer Tanwydd Trafnidiaeth Glanach a Gwyrddach

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Diben:

Nod y strategaeth yw pennu rôl a phrif ymrwymiadau’r Cyngor wrth gefnogi‘r broses bontio i danwydd trafnidiaeth dim carbon ag allyriadau isel. Mae’r strategaeth yn rhan o elfen ar nodau a chyfrifoldebau ehangach y Cyngor yn ymwneud â rheoli Ansawdd yr Aer, a Lleihau Carbon.

 

Mae’r Camau Strategol yn ymwneud ag:

·         ein harferion ein hunain o ran caffael cerbydau fflyd;

·         mesurau i gefnogi’r gymuned ehangach wrth gael mynediad at seilwaith gwefru cerbydau;

·         ein dylanwad ar weithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus, gwasanaethau tacsi a sefydliadau partner; a

chefnogi arloesedd a chamau i ehangu’r cyflenwad uniongyrchol o ffynonellau ynni adnewyddadwy lleol ar gyfer trafnidiaeth.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: cymeradwyo strategaeth a chamau arfaethedig y Cyngor ar gyfer cyflawni pontio i drafnidiaeth allyriadau isel yn y Ddinas

 

Dyddiad cyhoeddi: 19/04/2018

Dyddiad y penderfyniad: 19/04/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/04/2018 - Cabinet

Effeithiol O: 02/05/2018

Dogfennau Cefnogol: