English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Manylion y penderfyniad

Rhwydwaith Gwres caerdydd: Cymeradwyoaeth ar gyfer y Cynllun Busnes Amlinellol dros Rwydwaith Gwres Caerdydd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Diben:

Mae gan y Ddinas sawl ffynhonnell gwres gwastraff a/neu adnewyddadwy, gan gynnwys Safle Troi Gwastraff yn Ynni Parc Trident, ffynhonnell wres ddaear naturiol, a chyfleoedd gwres gwastraff diwydiannol eraill.

Mae astudiaeth dichonoldeb fanwl wedi’i chyflawni i adnabod y cyfleoedd tymor byr, canolig a thymor hir i fanteisio ar y rhain fel ffynhonnell wres ddibynadwy a charbon isel i’r Ddinas. Mae’r astudiaeth wedi derbyn arian grant gan Lywodraeth Cymru ac “Uned Cyflawni Rhwydwaith Gwres” y Llywodraeth Ganolog.

 

Mae’r gwaith wedi cyflawni achos busnes manwl ar gyfer rhwydwaith yn ehangu o Barc Trident, drwy’r Bae a safleoedd datblygu allweddol eraill o amgylch Dumballs Road a Sgwâr Callaghan, gan gyrraedd prif ddefnyddwyr yn ne-ddwyrain Canol y Ddinas.

 

Mae’r cynnig terfynol yn cynnwys dull datblygu â dau gam, gyda’r cam cyntaf yn cyrraedd ardaloedd i’r de o'r Orsaf Ganolog.

 

Bydd angen cyllid grant a chefnogaeth ariannol arall er mwyn cyflawni'r cam cyntaf hwn, fydd yn fwy drud.

Penderfyniad:

Mae atodiadau C a D i’r adroddiad hwn wedi’u heithrio rhag cael eu datgelu gan fod ynddynt wybodaeth i gydymffurfio â pharagraffau 14, 21 a pharagraff 16 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

PENDERFYNWYD:

 

1.   cymeradwyo mewn egwyddor Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Rhwydwaith Gwres Caerdydd ac y dylid awdurdodi datblygiad Achos Busnes Terfynol gael ei gyflwyno i’r Cabinet yn amodol ar sicrhau'r cyllid priodol fel y'i nodir yn yr adroddiad.

 

2.   awdurdodi’r tîm project i fwrw ymlaen â’r ceisiadau grant mewn perthynas â HNDU a HNIP fel y’i nodir yn yr adroddiad;

 

3.   y dylid awdurdodi’r tîm project i fwrw ymlaen ag ymgysylltiad pellach gyda rhanddeiliaid fel y’i nodir yn yr adroddiad;

 

4.   dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a’r Amgylchedd a’r Swyddog A151 a’r Swyddog Monitro i (i) orffen y strategaeth gaffael a bwrw ymlaen â’r gwaith o gaffael contractwr Dylunio, Adeiladu, Gweithredu a Chynnal (DAGCh) y project, a delio’n gyffredinol â phob agwedd ar y project a phennu'r contract DAGCh ar ôl i'r Cabinet gymeradwyo'r Achos Busnes Terfynol a (ii) Cytuno ar fân ddiwygiadau i'r OBC gyda'r Cyfarwyddwr mewn ymgynghoriad â’r rheiny a nodir uchod er budd y Cyngor ac os yw natur y project yn wahanol iawn, cyfeirio'r project yn ôl at y Cabinet

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 20/04/2018

Dyddiad y penderfyniad: 19/04/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/04/2018 - Cabinet

Effeithiol O: 02/05/2018

Dogfennau Cefnogol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.