Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Bydd y fframwaith presennol ar gyfer darparu Trafnidiaeth i Deithwyr yn dod i ben ar 31 Awst 2018. Mae’r adroddiad yn nodi’r cynlluniau i ehangu'r DPS presennol am hyd at 18 wythnos fel y gall contractau newydd gael eu cyflwyno dros gyfnod y tymor cyntaf (o ddechrau mis Medi 2018 i ddechrau mis Ionawr 2019) yn hytrach na dechrau'r holl gontractau ar yr un dyddiad.Bydd hyn yn sicrhau prosesau pontio effeithlon i gontractau newydd heb llawer o newid i gwsmeriaid.
Mae Atodiad 2 yr adroddiad hwn wedi’i eithrio rhag ei gyhoeddi yn unol â pharagraff 16 Rhan 4 Atodlen 12a Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD:
1. awdurdodi’r strategaeth gyffredinol arfaethedig i gaffael Contractau Trafnidiaeth Teithwyr am 7 mlynedd gwerth £49M drwy System Brynu Ddeinamig.
2. dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd mewn ymgynghoriad a’r Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Swyddog Adran 151 a Chyfarwyddwr y Gyfraith a Llywodraethiant i gynnal pob agwedd ar y broses gaffael, yn ddigyfyngiad ac i gynnwys:
i. cymeradwyo sefydlu System Brynu Ddeinamig (SBD) newydd
ii. cymeradwyo’r meini prawf gwerthuso tendr i sefydlu’r SBD newydd
iii. penodi darparwyr newydd i’r SBD newydd ar ôl iddynt fodloni’r meini prawf dethol a nodir gan y Cyngor
iv. dirprwyo ymhellach yr awdurdod i ddyfarnu contractau sy’n ofynnol dros oes y SBD newydd, ac i’r dirprwyaethau pellach fod yn unol â Chynllun Dirprwyo’r Cyngor.
v. delio â’r holl faterion cysylltiedig sy’n ymwneud â gwneud unrhyw estyniadau byrdymor i gontractau unigol y gallai fod eu hangen nes i gontractau newydd gael eu caffael dan y SBD newydd
Mae’r ddirprwyaeth a geisir yn eang ac yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, yr agweddau canlynol ar y broses gaffael:
(a) Cymeradwyo rhoi’r SBD newydd ar waith gan ddefnyddio rheolau Gweithdrefn Tendro Cyfyngedig Addasedig.
(b) Cytuno i ddefnyddio cyfuniad o e-arwerthiannau seiliedig ar filltiredd ac e-arwerthiannau am yn ôl i ddyrannu llwybrau penodol ar y pris mwyaf cystadleuol a gaiff ei gynnig drwy SBD.
(c) Penodi darparwyr gwasanaeth newydd i’r SBD, ar ôl iddynt fodloni’r meini prawf dethol fel y nodir gan y cyngor yn y dogfennau tendro, yn ôl y gofyn.
(d) Ar ôl hynny, y Cyfarwyddwr i ddirprwyo ymhellach yr awdurdod i ddyfarnu contractau sy’n ofynnol dros oes yr SBD newydd, ac i ddirprwyaethau pellach fod yn unol â Chynllun Dirprwyo’r Cyngor.
(e) Os, am unrhyw reswm technegol, nad oes modd defnyddio system gwbl electronig (SBD), i gynnal y broses gaffael drwy ddull arall (dull nad yw’n e-gaffael) a rheoli’r trefniadau contract a roddwyd ar waith.
Dyddiad cyhoeddi: 16/02/2018
Dyddiad y penderfyniad: 15/02/2018
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 15/02/2018 - Cabinet
Effeithiol O: 28/02/2018
Dogfennau Cefnogol: