Manylion y penderfyniad

Polisi Caffael Cymdeithasol Gyfrifol

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Diben:

Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb i reoli arian cyhoeddus yn briodol, i sicrhau gwerth am arian ac i’w reoli mewn ffordd sy’n cefnogi amcanion ehangach y Cyngor. Mae Strategaeth Gaffael y Cyngor 2017-2020 yn rhoi mwy o ffocws ar gyflawni llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol drwy ei gontractau, gyda ffocws ar gyflawni mentrau polisi Llywodraeth Cymru gan gynnwys Buddion Cymunedol, Cyflogaeth Foesol mewn Cadwyni Cyflenwi a'r Siarter Agor Drysau.

Nod y Polisi Caffael sy’n Gyfrifol yn Gymdeithasol yw cynnig fframwaith cyffredinol ar gyfer cyflawni’r mentrau hyn. Nod y polisi hwn yw sicrhau bod y Cyngor yn gwella'r llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol y mae'n ei gyflawni drwy ei waith caffael.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.    Cymeradwyo’r Polisi Caffael Cymdeithasol Gyfrifol.

 

2.    fod y Polisi Caffael Cymdeithasol Gyfrifol hefyd yn gweithredu fel Polisi Cyflogaeth Moesegol y Cyngor ar gyfer cadwyni cyflenwi’r Cyngor.

 

Dyddiad cyhoeddi: 16/02/2018

Dyddiad y penderfyniad: 15/02/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 15/02/2018 - Cabinet

Effeithiol O: 28/02/2018

Dogfennau Cefnogol: