English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Manylion y penderfyniad

Cynigion Trefniadaeth Ysgolion : Gwella darpariaeth i Blant a Phobl Ifanc ac Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) 2018-22

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Diben:

Diben yr adroddiad yw:

  • Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar Strategaeth ADY Caerdydd i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY); 
  • Rhoi gwybod i’r Cabinet am y galw cynyddol arfaethedig ar gyfer cymorth a darpariaeth ADY 2018-22;
  • Ceisio awdurdod y Cabinet i ymgynghori ar ystod o gynigion, i ymestyn ac ail-alinio darpariaeth arbenigol i blant a phobl ifanc..

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.    Cymeradwyo blaenoriaethau strategol ADY Caerdydd, 2018-22:

 

·         Blaenoriaeth Un:

·          Gwella canlyniadau dysgwyr ag anghenion ychwanegol drwy weithredu’r Ddeddf Tribiwnlys ADY ac Addysgol yn llwyddiannus. Blaenoriaeth Dau:

Gwella canlyniadau dysgwyr gydag anghenion ychwanegol drwy gryfhau ein capasiti ar y cyd i fodloni’r holl anghenion.

·         Blaenoriaeth Tri:

Gwella canlyniadau dysgwyr gydag anghenion ychwanegol drwy sicrhau darpariaeth dysgu ychwanegol digonol ac o safon

 

 

2.    Awdurdodi swyddogion i ymgynghori ar y cynigion canlynol:

 

a)    Ateb y galw am leoedd cynradd ac uwchradd mewn ysgolion arbennig i ddysgwyr ag anableddau dysgu cymhleth neu gyflyrau ar y sbectrwm awtistig, cynigir

·       Cynyddu’r nifer dynodedig o leoedd T? Gwyn i 198;

·      sefydlu 3 dosbarth ychwanegol drwy addasu hen adeilad Canolfan Ieuenctid Trelai, sydd wedi’i leoli yng nghefn yr ysgol   

 

a)    Er mwyn ateb y galw am leoedd cynradd ac uwchradd mewn ysgolion arbennig i ddysgwyr â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth, cynigir:

·           ehangu ystod oedran Ysgol The Hollies o 4-11 i 4-14

·           cynyddu’r nifer dynodedig i 138

·           cynnig llety ychwanegol drwy adfywio’r llety ysgol y bydd Ysgol Glan Morfa yn ei adael

 

b)    Er mwyn ateb y galw ar gyfer lleoedd ôl-16 ar gyfer iechyd a llesiant emosiynol, cynigir

·       ehangu ystod oedran Greenhill o 11-16 i 11-19 a

·      ehangu capasiti’r ysgol i gynnig hyd at 64 o leoedd.   

 

c)    Er mwyn ateb y galw am leoedd cynradd mewn ysgolion arbennig i ddysgwyr ag anableddau dysgu cymhleth CSA, cynigir

·       newid dynodiad Ysgol Meadowbank o:

 ‘namau ieithyddol penodol’, i: ‘anghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu ac anableddau dysgu cymhleth’ 

 

d)    Er mwyn ateb y galw am leoedd ymyrraeth gynnar ar gyfer anghenion iaith a lleferydd, cynigir

·            Cau’n raddol y CAA yn Ysgol Allensbank, gan gau’r dosbarth yn gyfan gwbl ym mis Gorffennaf 2020, neu pan fydd yr holl ddisgyblion presennol wedi cwblhau’r lleoliad cynradd os yw’n gynt na hynny. 

·           Agor dosbarth ymyrraeth gynnar ag 8 lle i blant ag anghenion iaith a lleferydd yn Ysgol Allensbank, gan dderbyn y cohort cyntaf ym mis Medi 2019. 

 

e)    Er mwyn ateb y galw am leoedd cynradd mewn canolfannau adnoddau arbenigol i ddysgwyr ag anableddau dysgu cymhleth, cynigir

·                 agor canolfan adnoddau arbenigol (CAA) yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Fair y Forwyn, ar gyfer hyd at 20 o blant.

 

f)     I ateb y galw am leoedd CAA cynradd ar gyfer plant ag anableddau dysgu cymhleth a chyflyrau ar y sbectrwm awtistig yn y sector cyfrwng Cymraeg, cynigir

·            agor canolfan adnoddau arbenigol yn Ysgol Pwll Coch, gan gynnig hyd at 10 o leoedd i ddechrau, ond gyda sgôp i ehangu i 20 o leoedd yn y dyfodol, wrth i’r galw gynyddu. 

g)    I ateb y galw am leoedd CAA uwchradd ar gyfer plant ag anableddau dysgu cymhleth a chyflyrau ar y sbectrwm awtistig yn y sector cyfrwng Cymraeg, cynigir:

·       ehangu’r nifer dynodedig yn nghanolfan adnoddau arbenigol Ysgol Glantaf i hyd at 30 o leoedd

·      ehangu a gwella’r llety presennol ar gyfer y CAA

 

3.    y bydd swyddogion yn dod ag adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad i gyfarfod yn y dyfodol i geisio cymeradwyaeth i fwrw ymlaen i gyhoeddi cynigion yn unol ag adran 48 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.

 

Dyddiad cyhoeddi: 18/01/2018

Dyddiad y penderfyniad: 18/01/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 18/01/2018 - Cabinet

Effeithiol O: 31/01/2018

Dogfennau Cefnogol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.