English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Penderfyniadau

Defnyddiwch yr opsiynau chwilio isod ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth yngl?n â’r hyn y mae cyrff penderfynu'r cyngor wedi'i benderfynu yn ddiweddar.

Neu gallwch ymweld â thudalen penderfyniadau swyddogion ar gyfer gwybodaeth am benderfyniadau y mae swyddogion penodol y cyngor wedi'u.

Gallwch hefyd edrych ar grynoadau o’n penderfyniadau.

Cofrestrau Penderfyniad / nid Rhybuddion yn cael eu cyfieithu fel mater o drefn, Os oes angen fersiwn Cymraeg cysylltwch â'r Swyddfa Cabinet ar 02920 872396

Cynharach - Hwyrach

Penderfyniadau a Gyhoeddwyd

10/12/2018 - Awdurdod i Barhau gyda'r Tendr ar gyfer Ailgomisiynu Llety a Gwasanaethau Cymorth ar gyfer Pobl Ifanc - Cam Gwobrau ref: 1012    Argymhellion Cymeradwy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 12/12/2018

Effeithiol O: 25/12/2018

Penderfyniad:

Ni chyhoeddir Atodiad 1 a 2 i’r adroddiad hwn gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth wedi’i heithrio fel y disgrifir ym Mharagraff 14, gwybodaeth sy’n ymwneud â materion busnes neu ariannol unrhyw berson penodol gan gynnwys awdurdod Rhan 4 atodlen 12A a pharagraff 21 Rhan 5 Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

CYTUNWYD:

 

1.   Cymeradwyo’r cynigwyr ar y rhestr fer yn dilyn gwerthuso’r cyflwyniadau yng Ngham Dewis y broses gaffael (holiaduron cyn cymhwyster); a

 

2. Cymeradwyo’r Gwahoddiad drafft i Dendro (gan gynnwys y meini prawf gwerthuso, telerau ac amodau ac amserlenni drafft) wedi deall y gallai’r Tîm Projectau wneud mân newidiadau i’r Gwahoddiad i Dendro ar yr amod nad yw ei sylwedd yn newid yn sylweddol; a

 

3.  Cymeradwyo cyhoeddi’r Gwahoddiad i Dendro.i’r Cynigwyr sydd ar y Rhestr Fer.

 


03/12/2018 - Fframwaith ar gyfer Atgyweirio Eiddo Domestig Gwag ref: 1011    Argymhellion Cymeradwy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 12/12/2018

Effeithiol O: 25/12/2018

Penderfyniad:

CYTUNWYD:

 

1.   gwahodd y sefydliadau hynny a nodir yn Atodiad A fel y rhai sydd ar y rhestr fer ac sy’n gymwys i fynd ymlaen at gam nesaf y broses gaffael, i dendro.

 

cymeradwyo’r gwahoddiad i dendro dogfennaeth, gan gynnwys y meini prawf gwerthuso, cytundeb fframwaith drafft ac amserlenni a’u cyhoeddi i’r sefydliadau hynny a nodir yn Atodiad A


23/11/2018 - Fframwaith ar gyfer Galluogi a Chyflawni Addasiadau ar gyfer Pobl Anabl ref: 1007    Argymhellion Cymeradwy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 30/11/2018

Effeithiol O: 12/12/2018

Penderfyniad:

CYTUNWYD:

 

1.   I gymeradwyo’r meini prawf gwerthuso cyffredinol arfaethedig fel y manylir arnynt yng nghorff yr adroddiad hwn.

 

2.   Dechrau ar y caffael ac awdurdodi  cyhoeddi dogfennaeth yr hysbysiad Contract GwerthuIGymru a’r Holiadur Cyn Cymhwyso (HCC)

 


23/11/2018 - Cynigion Ymgynghori i sefydlu Ffederasiwn i Ysgol Bro Eirwg ac Ysgol Pen y Pil ref: 1009    Argymhellion Cymeradwy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 30/11/2018

Effeithiol O: 12/12/2018

Penderfyniad:

CYTUNWYD: Fod yr Awdurdod Lleol yn ffurfiol yn cefnogi’r cynigion ymgynghori i sefydlu Ffederasiwn ar gyfer Ysgol Bro Eirwg ac Ysgol Pen y Pil.

 


28/11/2018 - Rhandiroedd Cynnig Cynyddu Pris Rhent Rhandiroedd 2019/20 ref: 1010    Argymhellion Cymeradwy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 30/11/2018

Effeithiol O: 12/12/2018

Penderfyniad:

CYTUNWYD: i gynyddu’r rhenti blynyddol ar randiroedd fel y dangosir yn y tabl isod gan ddechrau yn y Flwyddyn Randiroedd ar 2 Chwefror 2019.

 

Eitem

Tâl presennol £

Newid Arfaethedig yn y Pris £

Tâl newydd

% Cynnydd

Plot Categori A - (fesul perc)

£12.08

£0.42

£12.50

3.48%

Plot Categori A - (fesul perc gyda gostyngiad)

£6.04

£0.21

£6.25

3.48%

Plot Categori B - (fesul perc)

£11.72

£0.40

£12.12

3.41%

Plot Categori B - (fesul perc gyda gostyngiad)

£5.86

£0.20

£6.06

3.41%

Plot Categori C - (fesul perc)

£11.26

£0.36

£11.62

3.20%

Plot Categori C - (fesul perc gyda gostyngiad)

£5.63

£0.18

£5.81

3.20%

Chalet (Adeilad)

£114.60

£3.60

£118.20

3.14%

Gostyngiad Chalet (Adeilad)

£57.30

£1.80

£59.10

3.14%

Ciwbicl Brics (Adeilad)

£26.36

£0.86

£27.22

3.26%

 

 

 

 

 

Cynnydd cyfartalog

 

 

 

3.30%

 


29/11/2018 - Caffael Offer Ffatri Mawr ar gyfer Rheoli Gwastraff ref: 1008    Argymhellion Cymeradwy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 30/11/2018

Effeithiol O: 12/12/2018

Penderfyniad:

CYTUNWYD: i

 

1.      Ddechrau ar gaffael offer trwm o fewn rheoli gwastraff

 

2.      Gymeradwyo cwmpas y caffael gan gynnwys ond heb ei gyfyngu i hyd arfaethedig y contract, y meini prawf gwerthuso a’r pwysoli fel a nodwyd yn yr adroddiad

 

3.      Gymeradwyo dechrau’r caffael drwy gyhoeddi’r OJEU a’r ddogfennaeth gaffael

 


 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.