Penderfyniadau

Defnyddiwch yr opsiynau chwilio isod ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth yngl?n â’r hyn y mae cyrff penderfynu'r cyngor wedi'i benderfynu yn ddiweddar.

Neu gallwch ymweld â thudalen penderfyniadau swyddogion ar gyfer gwybodaeth am benderfyniadau y mae swyddogion penodol y cyngor wedi'u.

Gallwch hefyd edrych ar grynoadau o’n penderfyniadau.

Cofrestrau Penderfyniad / nid Rhybuddion yn cael eu cyfieithu fel mater o drefn, Os oes angen fersiwn Cymraeg cysylltwch รข'r Swyddfa Cabinet ar 02920 872396

Penderfyniadau a Gyhoeddwyd

13/06/2019 - Safonau'r Gymraeg: Adroddiad Blynyddol 2018-19 ref: 1131    Argymell Ymlaen i'r Cyngor

Mae gan Awdurdodau Lleol ddyletswydd statudol dan Adran 44 Mesur y Gymraeg [Cymru] 2011 i gydymffurfio â’r rheoliad ‘safonau’r Gymraeg’.

Mae dyletswydd ar Gyngor Caerdydd i gydymffurfio â safonau sy’n ymwneud â chreu a chyhoeddi Adroddiad Blynyddol.

 

Hwn fydd y trydydd adroddiad blynyddol wedi’i greu dan safonau’r Gymraeg.

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 13/06/2019 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 14/06/2019

Effeithiol O: 13/06/2019

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: argymell i’r Cyngor:

 

(1)    Gymeradwyo Adroddiad Blynyddol 2018-19 ar Safonau’r Gymraeg (fel sydd wedi’i atodi fel Atodiad A) a chytuno arno cyn iddo gael ei gyhoeddi yn unol â Safonau’r Gymraeg (Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011).

(2)    Cymeradwyo Cynllun Gweithredu diwygiedig y Strategaeth Caerdydd Ddwyieithog (wedi’i atodi fel Atodiad 1)


13/06/2019 - Ymateb y Cabinet i'r Adroddiad Craffu Diwylliant a'r Economi o'r enw 'Digwyddiadau yng Nghaerdydd' ref: 1132    Argymhellion Cymeradwy

Galluogi’r Cabinet i ymateb i adroddiad y Pwyllgor Craffu o’r enw ‘Digwyddiadau yng Nghaerdydd’

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 13/06/2019 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 14/06/2019

Effeithiol O: 26/06/2019

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: cymeradwyo’r ymateb i adroddiad ‘Digwyddiadau yng Nghaerdydd’ y Pwyllgor Craffu Economi a Diwylliant fel y nodir yn Atodiad A i’r adroddiad

 


13/06/2019 - Cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 16 Mai 2019 ref: 1129    Argymhellion Cymeradwy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 13/06/2019 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 14/06/2019

Effeithiol O: 13/06/2019

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 


13/06/2019 - Band B Ysgolion yr 21fed Ganrif: Ailddatblygu Ysgolion Cantonian, Glan-yr-afon a Woodlands ref: 1133    Argymhellion Cymeradwy

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r barn a fynegwyd yn ystod yr ymgynghoriad, ynghyd ag argymhellion ar sut ddylid bwrw ymlaen.

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 13/06/2019 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 14/06/2019

Effeithiol O: 26/06/2019

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

1.     cyhoeddi hysbysiadau statudol i:

·         Gynyddu capasiti Ysgol Uwchradd Cantonian o 6 dosbarth mynediad (6DM) i wyth dosbarth mynediad (8DM) gyda darpariaeth chweched dosbarth i hyd at 250 o ddisgyblion mewn llety newydd;

·         Ehangu’r Ganolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) i ddysgwyr a Chyflwr Sbectrwm Awtistig (CSA) yn Ysgol Uwchradd Cantonian o 20 i 30 o leoedd mewn llety pwrpasol yn adeiladau newydd yr ysgol;

·         Symud Ysgol Arbennig Woodlands i safle Doyle Avenue a chynyddu’r capasiti o 140 o leoedd i 240 o leoedd mewn llety newydd;

 

·         Symud Ysgol Arbennig Riverbank i safle Doyle Avenue a chynyddu’r capasiti o 70 o leoedd i 112 o leoedd mewn llety newydd.

 

2.     Nodi, petai gwrthwynebiadau i’r hysbysiad statudol cyhoeddedig yn dod i law, y byddai’r Cyngor yn cyhoeddi crynodeb o’r gwrthwynebiadau hyn ac ymateb y Cyngor i’r gwrthwynebiadau hynny.

3.       Nodi o fewn 25 diwrnod o ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu y bydd y Cyngor yn anfon copïau o’r gwrthwynebiadau statudol ymlaen, yn ychwanegol at yr adroddiad gwrthwynebu, i Weinidogion Cymru i benderfynu ar y cynnig.

4.     Nodi y bydd y Cabinet yn derbyn adroddiad dilynol ar gynigion pellach i gynyddu nifer y lleoedd ysgol arbennig ar gyfer plant cynradd ag anghenion dysgu cymhleth.

 


13/06/2019 - Derbyn adroddiad y Pwyllgor Craffu'r Amgylchedd o'r enw 'Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon yng Nghaerdydd' ref: 1130    Argymhellion Cymeradwy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 13/06/2019 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 13/06/2019

Effeithiol O: 13/06/2019

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: derbyn adroddiad y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol, ‘Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon yng Nghaerdydd’ a chynnig ymateb erbyn Hydref 2019

 


13/06/2019 - Bws Caerdydd - Benthyciad ar gyfer Caffael Cerbydau Trydan ref: 1136    Argymhellion Cymeradwy

Yn unol â’r ddeddfwriaeth, gall y cwmni geisio benthyciadau gan y Cyngor yn unig.Mae benthyciad o £2 miliwn wedi ei gynnwys yn rhan o raglen Cyfalaf y Cyngor ar gyfer prynu cerbydau.Yn ogystal, mae angen £1.8 miliwn i alluogi’r cwmni i gynnig arian cyfatebol a sicrhau Grant Adran Drafnidiaeth o £5.7 miliwn tuag at 36 o fysus trydanol a seilwaith cysylltiedig.Mae hyn yn rhan o nifer o fesurau i wella ansawdd aer.Mae sicrhau’r holl gyllid yn ofyniad er mwyn derbyn telerau ac amodau grant yr Adran Drafnidiaeth.

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 13/06/2019 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 13/06/2019

Effeithiol O: 26/06/2019

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.             cymeradwyo benthyciad i Fws Caerdydd gan y Cyngor am £2.0m ar gyfer prynu cerbydau trydan yn amodol ar gasgliad cytundeb cyfreithiol, gan gynnwys trefniadau diogelwch priodol rhwng y Cyngor a Bws Caerdydd mewn perthynas â thelerau’r benthyciad

 

2.             Yn unol â Fframwaith Cyllidebol y Cyngor, ceisio cymeradwyaeth bellach cheisio gan y Cyngor lle bo angen ac, os yn briodol, o ran ymrwymiadau gwariant ac yn unol ag amodau grant yr Adran Drafnidiaeth am fenthyciad pellach i Fws Caerdydd gwerth £1.8 miliwn.

 

3.         dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau mewn ymgynghoriad â’r Cyfarwyddwr Llywodraethu a Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad i baratoi a chasglu’r trefniadau cyfreithiol rhwng y Cyngor a Bws Caerdydd mewn perthynas â benthyciadau a gymeradwywyd.


13/06/2019 - Adroddiad Alldro ref: 1135    Argymhellion Cymeradwy

Ystyried yr adroddiad Alldro

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 13/06/2019 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 13/06/2019

Effeithiol O: 26/06/2019

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

(1)           y dylid cymeradwyo'r adroddiad a’r camau a gymerwyd mewn perthynas â chyfrifon y Cyngor am 2018/19.

 

(2)      y dylid nodi y bydd yr adroddiad yn ffurfio Atodiad i adroddiad Datganiadau Ariannol y Cyngor a fydd yn cael ei ystyried yn ei gyfarfod ym mis Medi 2019.

 


13/06/2019 - Cynllun Terfynol Astudiaeth Dichonoldeb Ansawdd Aer - Achos Busnes Llawn a Gweilliannau Trafnidiaeth Canol y Ddinas ref: 1134    Argymhellion Cymeradwy

Datblygu Papur Gwyn ddrafft a gaiff ei lywio gan yr ymgynghoriad helaeth ar y Papur Gwyrdd ar drafnidiaeth ac aer glân a gynhaliwyd yn ystod gwanwyn 2018.  Bydd y Papur Gwyn yn cynnig gweledigaeth hirdymor ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth y ddinas, gan gydweddu'n agos â'r rhaglen waith awyr lân barhaus y mae'r Cyngor yn ei rhoi ar waith gyda Llywodraeth Cymru.  

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 13/06/2019 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 13/06/2019

Effeithiol O: 26/06/2019

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.         nodi canlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus ar yr Opsiwn a Ffefrir fel y nodir ym mharagraffau 66-71 yr adroddiad

 

2.         cymeradwyo Cynllun Terfynol Astudiaeth o Ddichonoldeb Ansawdd Aer (Achos Busnes Llawn) i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru dim hwyrach na 30 Mehefin 2019

 

3.         dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth i wneud unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol i’r Cynllun Terfynol, ar yr amod nad oes unrhyw newidiadau sylfaenol i’r Opsiwn a Ffefrir y cytunwyd arno yn digwydd o ganlyniad i’r diwygiadau.

 

4.         cymeradwyo’r Strategaeth Aer Glân a’r Cynllun Gweithredu ehangach i’w cynnwys fel Atodiad C yn y Cynllun Terfynol

 

5.         dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth i asesu’r ymarferoldeb o weithredu Ardal Allyriadau Isel ar gyfer Bysus a/neu Gynllun Partneriaeth Ansawdd.

6.          

7.         cymeradwyo ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyluniadau cyd-destunol o Gynlluniau Gwella arfaethedig Canol y Ddinas, sef:

  1. Gogledd Canol y Ddinas
  2. Gorllewin Canol y Ddinas
  3. Dwyrain Canol y Ddinas

 

8.         Dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth i ddatblygu a chymeradwyo dyluniad manwl gwaith, gan ystyried adborth i’r ymgynghoriad cyhoeddus a bwrw ymlaen â’r Gorchmynion Rheoli Traffig angenrheidiol.

 

9.         Ystyried cyngor cyfreithiol a chaffael (a’r cafeatau a nodir ym mharagraff 135 o’r adroddiad) a rhoi cymeradwyaeth i fwrw ymlaen i Dendro contractwr ar y cynlluniau canlynol;

a)                   Gorllewin Canol y Ddinas Cam 1

b)                   Gogledd Canol y Ddinas Cam 1

c)   Dwyrain Canol y Ddinas Cam 1

 

9.         Adroddiad pellach ar Gynlluniau Canol y Ddinas i’w dderbyn cyn dyfarnu contract.