Cynghorwyr a chyfarfodydd
- Cabinet
- Calendr cyfarfodydd
- Pwyllgorau
- Cynghorau Plwyf
- Cyfansoddiad Cyngor
- Cynghorwyr
- Penderfyniadau
- Canlyniadau Etholiadau
- Cynlluniau Gwaith i’r Dyfodol
- Llyfrgell
- Cyfarfodydd
- Cyrff Allanol
- Cofrestrau
- Cydnabyddiaeth
- Craffu
- Grwpiau Holl Bleidiau’r Cyngor
- Chwilio Dogfennau
- Tanysgrifiwch am ddiweddariadau
- Gweddarlleidiadau
- Eich ACau
- Eich ASau
- Eich ASau Ewropeaidd
- Beth sy'n newydd
Penderfyniadau
Defnyddiwch yr opsiynau chwilio isod ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth yngl?n â’r hyn y mae cyrff penderfynu'r cyngor wedi'i benderfynu yn ddiweddar.
Neu gallwch ymweld â thudalen penderfyniadau swyddogion ar gyfer gwybodaeth am benderfyniadau y mae swyddogion penodol y cyngor wedi'u.
Gallwch hefyd edrych ar grynoadau o’n penderfyniadau.
Cofrestrau Penderfyniad / nid Rhybuddion yn cael eu cyfieithu fel mater o drefn, Os oes angen fersiwn Cymraeg cysylltwch â'r Swyddfa Cabinet ar 02920 872396
12/10/2018 - Caffael Cytundeb Fframwaith (Fframwaith B) ar gyfer cynnal a chadw ystâd eiddo annomestig y Cyngor ref: 977 Argymhellion Cymeradwy
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 01/11/2018
Effeithiol O: 13/11/2018
Penderfyniad:
CYTUNWYD:
1. i nodi’r diweddariad ar y Fframwaith arfaethedig ar gyfer darparu gwaith toi arbenigol
2. i gymeradwyo cwmpas diwygiedig y fframwaith arfaethedig, y cyfeirir ato fel Fframwaith B ac fel y’i gosodir yng nghorff yr adroddiad
3. i gymeradwyo’r Weithdrefn Gyfyngedig i’w dilyn
4. i gymeradwyo’r meini prawf arfarnu cyffredinol sef 60% cost a 40% ansawdd, a
5. chymeradwyo dechrau’r broses gaffael trwy ddosbarthu’r hysbysiad a dogfennau caffael OJEU..
09/10/2018 - Gwasanaeth Byw â Chymorth i Oedolion sy'n Agored i Niwed -Camddefnyddio Sylweddau (T? Cornel) ref: 978 Argymhellion Cymeradwy
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 01/11/2018
Effeithiol O: 13/11/2018
Penderfyniad:
Nidyw’r adroddiad neu’r rhan i’w gyhoeddi oherwydd ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am y disgrifiad yn Atodlen B ac Atodlen C Rhan 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972
CYTUNWYD:
1. i gymeradwyo’r broses gaffael arfaethedig ar gyfer Gwasanaethau Byw â Chymorth yn T? Cornel, fel y’i gosodir yng nghorff yr adroddiad;
2. i gymeradwyo’r meini prawf arfarnu arfaethedig fel y’i disgrifir yng nghorff yr adroddiad;
3. i gymeradwyo’r ddogfennaeth caffael fel y’i hatodwyd i Atodlen A; a
4. dosbarthu’r hysbysiad OJEU I ddechrau’r broses gaffael yn ffurfiol
16/10/2018 - Penodi Cyfarwyddwyr Stadiwm y Mileniwm ccc ref: 976 Argymhellion Cymeradwy
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau a Swyddog Adran 151
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 01/11/2018
Effeithiol O: 13/11/2018
Penderfyniad:
CYTUNWYD: bod cynnig Undeb Rygbi Cymru i leihau maint Bwrdd Cyfarwyddwr Stadiwm y Mileniwm ccc (o unarddeg) i saith Cyfarwyddwr; trwy leihau nifer y Cyfarwyddwyr i’w penodi gan Gyngor Caerdydd (o bump) i dri gael ei gytuno, gyda lleihad cyfatebol o ran nifer y Cyfarwyddwyr i’w penodi gan Undeb Rygbi Cymru (o chwech) i bedwar.
10/10/2018 - Ailgylchu/Ailbrosesu Deunyddiau Cyd-fenter Ysgubo'r Ffordd<br/> ref: 974 Argymhellion Cymeradwy
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 26/10/2018
Effeithiol O: 07/11/2018
Penderfyniad:
CYTUNWYD: i gymeradwyo’r broses gaffael gan gynnwys cymeradwyo’r meini prawf arfarnu a dogfennaeth tendro a gwahodd tendrau gan ddarparwyr gwasanaeth posibl i fod yn gyfrifol am drin casgliadau Ysgubo’r Ffordd o Awdurdodau Lleol Caerdydd, Bro Morgannwg, Caerffili, Casnewydd Newport and Rhondda Cynon Taf
12/10/2018 - Heol Senghennydd -uwch briffordd Beicio Arfaethedig - Trefniadau ar gyfer Caffael Prif Gontractwr ref: 975 Argymhellion Cymeradwy
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 26/10/2018
Effeithiol O: 07/11/2018
Penderfyniad:
Nidyw’r adroddiad neu’r rhan i’w gyhoeddi oherwydd ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am y disgrifiad ym mharagraff 16, Rhan IV Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972
CYTUNWYD:
1. y caiff tendrau eu gwahodd gan gyflenwyr o fewn Fframwaith de-ddwyrain Cymru ar gyfer y contract i adeiladu’r Uwch briffordd Beicio yn Heol Senghennydd . Prisiwyd yn £1.070 miliwn
2. y caiff y meini prawf arfarnu tendr arfaethedig sef 70% cost a 30% ansawdd eu cymeradwyo
3. y caiff yr ymarfer tendro ei wneud yn amodol ar y cafeatau a restrir yn y cyngor cyfreithiol a restrir yn yr adroddiad hwn.
11/10/2018 - Cofnodion y cyfarfod Cabinet arall a gynhaliwyd ar 20 Medi 2018 ref: 966 Argymhellion Cymeradwy
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 11/10/2018 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 12/10/2018
Effeithiol O: 11/10/2018
Penderfyniad:
Cymeradwywyd
11/10/2018 - Rheoli Ansawdd Aer Lleol - Adroddiad Blynyddol ar Gynnydd Ansawdd Aer ref: 971 Argymhellion Cymeradwy
Adroddiad yn manylu ar ganlyniadau monitro ansawdd aer a gynhelir ledled Caerdydd yn ystod 2017.
Ceisio cymeradwyaeth i gyflwyno’r Strategaeth Aer Glân a Chynllun Gweithredu i Lywodraeth Cymru sy’n gosod y camau/mesurau strategol i wella ansawdd aer yn Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer ac yn ehangach ledled Caerdydd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 11/10/2018 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 12/10/2018
Effeithiol O: 24/10/2018
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD: bod yr Adroddiad Cynnydd Blynyddol 2018 yn cael ei gymeradwyo er mwyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
11/10/2018 - Goblygiadau Posibl Brexit Heb Fargen ref: 967 Argymhellion Cymeradwy
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 11/10/2018 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 12/10/2018
Effeithiol O: 24/10/2018
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD: bod
1. cynnwys yr adroddiad yn cael ei nodi
2. gwaith yn parhau drwy Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd i fonitro ac ymateb i unrhyw effaith bosibl ar wasanaethau cyhoeddus yn y ddinas;
3. unrhyw faterion a godir yn rhan o’r adolygiad parhaus o Gynlluniau Parhad Busnes gan Berchnogion Gynlluniau’n cael eu hystyried gan y Cabinet;
4. llythyr yn cael ei anfon at Ysgrifennydd Gwladol Gadael Undeb Ewropeaidd yn gofyn am unrhyw a phob darn o wybodaeth a dadansoddiad, hyd yn oed os yr ystyrir yn gyfrinachol, am effaith y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd dan sefyllfa “Heb Gytundeb”.
5. ystyried adroddiad pellach os a phryd y bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi Asesiadau Risg Cenedlaethol ar effaith Brexit Heb Gytundeb.
11/10/2018 - Model Cyflawni Newydd ar gyfer Help a Chymorth i Deuluoedd yng Nghaerdydd ref: 968 Argymhellion Cymeradwy
Yn dilyn adolygiad o’r trefniadau cymorth cynnar i deuluoedd a phlant, mae cynigion am wasanaethau cymorth teuluol newydd wedi’u datblygu i gynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth cynhwysfawr i deuluoedd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 11/10/2018 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 12/10/2018
Effeithiol O: 24/10/2018
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD: bod
1. dull Cymorth i Deuluoedd i'r dyfodol a nodir yn yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo.
2. Yn unol â Fframwaith Cyllidebol y Cyngor, dylid ymrwymo gwariant hyd at £500,000 mewn perthynas â blynyddoedd y dyfodol er mwyn bodloni gofynion y gwasanaeth newydd a nodir yn yr adroddiad hwn.
3. Dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol (yn unol â’i chyfrifoldeb statudol i sicrhau bod y gwasanaethau ataliol yn mynd ar ôl anghenion gofal a chymorth y boblogaeth) yn unol â’r Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd, Cyfarwyddwr Addysg a Chyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau i gymryd y camau angenrheidiol i weithredu’r Gwasanaeth Cymorth i Deuluoedd Newydd.
11/10/2018 - Adroddiad Llesiant Statudol Cyngor Caerdydd ref: 970 Argymell Ymlaen i'r Cyngor
Mae’r adroddiad hwn yn ddogfen statudol y mae’n rhaid i’r Cyngor ei chyhoeddi bob blwyddyn fel adlewyrchiad o’i berfformiad a’i weithgareddau yn y flwyddyn ariannol gynt (2017-18) yn unol â’r Cynllun Corfforaethol. Mae’n rhaid i’r adroddiad fod ar gael yn gyhoeddus erbyn 31 Hydref bob blwyddyn ar wefan y Cyngor, er mwyn bodloni gofynion Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 11/10/2018 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 12/10/2018
Effeithiol O: 11/10/2018
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD: bod
1. dirprwyo awdurdod i'r Prif Weithredwr, ar y cyd â'r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad i wneud unrhyw newidiadau ôl-ddilynol i'r Adroddiad Llesiant Statudol Blynyddol 2017-18 ar ôl derbyn sylwadau gan y Pwyllgor Craffu Adolygu Polisi a Pherfformiad
2. Yn amodol ar argymhelliad 1, cymeradwyo Adroddiad Llesiant Statudol Blynyddol 2017-18 er ystyriaeth y Cyngor
11/10/2018 - Adroddiad Cwynion Blynyddol Cyngor Caerdydd 2017-18 ref: 969 Argymhellion Cymeradwy
Adroddiad cwynion blynyddol y Cyngor yn darparu cyfanswm y cwynion a’r canmoliaethau y mae’r Awdurdod yn ei dderbyn bob blwyddyn ariannol.
Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth ar faint y derbyniodd pob gwasanaeth gyda naratif ar ddadansoddiad tueddiad, yn egluro unrhyw gynnydd neu leihad o’r flwyddyn gynt. Bydd gwelliannau a wneir gan y Cyngor o ganlyniad i adborth cwsmeriaid hefyd yn cael ei ystyried a’i nodi.
Darperir gwybodaeth ychwanegol ar gwynion sydd wedi cael eu cyflwyno i Ombwdsmon Cyhoeddus Cymru gan gynnwys data megis nifer y cwynion sy’n berthnasol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 11/10/2018 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 12/10/2018
Effeithiol O: 11/10/2018
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD: y byddai cynnwys yr adroddiad yn cael ei nodi.
I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.