Defnyddiwch yr opsiynau chwilio isod ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth yngl?n â’r hyn y mae cyrff penderfynu'r cyngor wedi'i benderfynu yn ddiweddar.
Neu gallwch ymweld â thudalen penderfyniadau swyddogion ar gyfer gwybodaeth am benderfyniadau y mae swyddogion penodol y cyngor wedi'u.
Gallwch hefyd edrych ar grynoadau o’n penderfyniadau.
Cofrestrau Penderfyniad / nid Rhybuddion yn cael eu cyfieithu fel mater o drefn, Os oes angen fersiwn Cymraeg cysylltwch รข'r Swyddfa Cabinet ar 02920 872396
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau a Swyddog Adran 151
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 19/03/2018
Effeithiol O: 29/03/2018
Penderfyniad:
Atodiadau 1 a 2 yr adroddiad hwn am eu bod yn cynnwys gwybodaeth wedi’i heithrio o’r disgrifiad a geir ym mharagraff 14 rhan 4 a pharagraff 21 rhan 5 Atodlen 12a Deddf Llywodraeth Leol 1972.
CYTUNWYD: meddiannu safleoedd yn Willowbrook Drive a Willowbrook Park, sydd wedi’u datgan yn safleoedd diangen fel mannau cyhoeddus, i’r Cyfrif Refeniw Tai at ddiben datblygu tai cymdeithasol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau a Swyddog Adran 151
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 19/03/2018
Effeithiol O: 29/03/2018
Penderfyniad:
Atodiadau 1 a 2 yr adroddiad hwn am eu bod yn cynnwys gwybodaeth wedi’i heithrio o’r disgrifiad a geir ym mharagraff 14 rhan 4 a pharagraff 21 rhan 5 Atodlen 12a Deddf Llywodraeth Leol 1972.
CYTUNWYD: meddiannu hen dafarndy’r Bulldog a’r tir cysylltiedig i’r Cyfrif Refeniw Tai at ddiben datblygu tai cymdeithasol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 15/03/2018 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 16/03/2018
Effeithiol O: 15/03/2018
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD: yr argymhellir Cynllun Busnes Cytundeb Gweithio ar y Cyd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i’r Cyngor ei gymeradwyo yn y ffurf a atodir fel Atodiad B i’r adroddiad.
Bydd safle gladdu fwyaf prysur y Ddinas yn llawn o fewn y tair blynedd nesaf. Nod yr adroddiad yw ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddefnyddio ardal o dir y mae’r Cyngor yn berchen arni i’r gogledd o’r M4 ar yr A469 ar gyfer man mynwent newydd yn amodol ar ganiatáu ceisiadau cynllunio.
Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r swyddogion i gyflwyno cais cynllunio ar gyfer y safle ac ymgymryd â'r gwaith o ddiddymu neu addasu'r les amaethyddol presennol sy'n gysylltiedig â'r tir.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 15/03/2018 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 16/03/2018
Effeithiol O: 29/03/2018
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
1. cefnogi cyflwyno cais cynllunio i geisio’r caniatâd angenrheidiol ar gyfer datblygu safle ar yr A469 i’r gogledd o’r M4 ac wedi’i nodi ar y map atodedig fel Atodiad 1 fel mynwent drefol.
2. y bydd swyddogion yn ceisio negodi ildio’r cytundeb tenantiaeth cyfredol gan y llesddeiliaid er mwyn cymryd y tir angenrheidiol yn ôl ar ddyddiad cynt ac ar ôl hynny gyhoeddi hysbysiad terfynu o ran y denantiaeth.
Mae’r amddiffynfeydd arfordirol ledled blaendraeth Caerdydd mewn cyflwr gwael iawn ac maent yn erydu’n gyflym iawn.
Mae achos busnes amlinellol wedi’i
greu gyda’r nod o wella’r amddiffynfeydd arfordirol ac
afonol presennol i gynnig mwy o ddiogelwch i bobl ac eiddo yn
ne-ddwyrain Caerdydd rhag erydu arfordirol a pherygl o lifogydd, ac
i atal erydiad mewn dwy safle tirlenwi sydd wedi’u
datgomisiynu a phriffordd fabwysiedig Rover Way.
Mae llawer o’r arfordir ledled ardal y project yn erydu, a chyda chynnydd disgwyliedig yn lefel y môr yn sgil newid yn yr hinsawdd, bydd y risg o lifogydd ac erydiad yn cynyddu yn y dyfodol. Bydd y cynllun arfaethedig yn rheoli’r risg o lifogydd i 1,116 eiddo preswyl a 72 eiddo amhreswyl dros 100 mlynedd, ynghyd ag atal erydiad pellach. Mae’r cynllun yn gyfuniad o amddiffynfeydd cerrig, codi argloddiau a gosod pyst seiliau.
Ceisir cymeradwyaeth i fwrw ymlaen â’r project i’r cam Dylunio Manwl yn rhan o Raglen Reoli Risgiau Arfordirol Llywodraeth Cymru.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 15/03/2018 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 16/03/2018
Effeithiol O: 29/03/2018
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
1. caffael dylunio ac adeiladu manwl yr amddiffyniadau arfordirol gwerth £11m.
2. Darparu cyllid ar raniad 75% gan Lywodraeth Cymru a 25% gan Gyngor Caerdydd.
3. ymrwymo’r cyllid angenrheidiol o 25% i ddarparu’r amddiffyniadau arfordirol yn unol â Rhaglen Reoli Risgiau Arfordirol.
4. ailasesu’r cynllun yn dilyn cwblhau’r dyluniad manwl i gadarnhau goblygiadau ariannol adeiladu a dichonoldeb.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 15/03/2018 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 15/03/2018
Effeithiol O: 29/03/2018
Penderfyniad:
Ni chyhoeddir Atodiad 3 yr adroddiad hwn gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth o’r math a ddisgrifir ym Mharagraff 14 Rhan 4 a pharagraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD: bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i Gyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a swyddogion statudol i gael diddordeb llesddeiliaid yn safle Toys ‘R’ Us wedi’i liwio’n las ar y cynllun atodedig yn Atodiad 1, ar y telerau wedi’u nodi yn Atodiad 3 sy’n gyfrinachol ac yn amodol ar werthusiadau annibynnol llawn.
Cardiff Well-being Plan sets out the Cardiff Public Service Board’s priorities for action over the next 5 years, and beyond. The plan responds to the evidence set out in its Well-being Assessment and focusses on the areas of public service delivery which fundamentally require partnership working between the city’s public and community services, and with the citizens of Cardiff.
As required by the Well-being of Future Generations (Wales) Act, each member of the PSB must confirm its approval of the plan for publication.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 15/03/2018 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 15/03/2018
Effeithiol O: 15/03/2018
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD: y caiff y Cynllun Lles ei gymeradwyo i’w ystyried gan y Cyngor ar 22 Mawrth 2018
Yn unol ag Adran 89 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a Rheoliadau Addysg (Penderfynu ar Drefniadau Derbyn) 2016, mae’n ofyniad i’r Cyngor adolygu’r polisi Derbyn i Ysgolion bob blwyddyn.
Rhaid penderfynu ar Drefniadau Derbyn Ysgolion er mwyn eu rhoi ar waith ym mis Medi 2019.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 15/03/2018 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 15/03/2018
Effeithiol O: 29/03/2018
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
1. y dylid pennu Trefniadau ar gyfer Derbyniadau Ysgol 2019/2020 fel y nodir ym Mholisi Derbyniadau 2019/2020.
2. y nodir bod y Trefniadau ar gyfer Derbyniadau Ysgol 2019/2020 yn gweithredu Opsiwn A ar gyfer derbyn i addysg uwchradd, fel y nodir yn y Ddogfen Ymgynghori ar Drefniadau Derbyn (Atodiad 2).
y nodir y bydd y Cabinet yn derbyn adroddiad canlyniadol ar newidiadau i ddalgylchoedd ysgol ar gyfer 2020/2021.
Cytuno ar Gynllun Ardal Caerdydd a’r Fro a’r Cynllun Gweithredu Ardal ar gyfer Anghenion Gofal a Chymorth.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 15/03/2018 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 15/03/2018
Effeithiol O: 29/03/2018
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
1. cymeradwyo Cynllun Ardal Caerdydd a Bro Morgannwg (fel y nodir yn Atodiad 1)
Cymeradwyo’r Cynllun Gweithredu Ardal (fel y nodir yn Atodiad 2) ar gyfer Anghenion Gofal a Chymorth 2018-2023.
The Welsh Government's has launched a new Targeted Regeneration Investment Programme, which presents an opportunity to apply for capital funding to support economic regeneration projects over a 3-year period from April, 18.
A regional regeneration plan needs to be in place, prior to project proposals being put forward for consideration under the new programme. This report seeks in principle approval for this Authority's input into the regional regeneration plan, in order that the regional framework can be finalised.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 15/03/2018 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 15/03/2018
Effeithiol O: 29/03/2018
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
1. y nodir y cyfle cyllid a gyflwynwyd gan Raglen Buddsoddi Adfywio Wedi ei Dargedu Llywodraeth Cymru a gofynion arian cyfatebol cysylltiedig;
2. y cytunir ar themâu a phrojectau â blaenoriaeth ar gyfer y Rhaglen Buddsoddi Adfywio Wedi ei Dargedu a nodir yn yr adroddiad;
3. y dirprwyir awdurdod i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Pobl a Chymunedau, Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd a Chyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a’r Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, i gwblhau manylion am gyfraniad y Cyngor at y Cynllun Adfywio Rhanbarthol a pharatoi ceisiadau cyllid i’w hystyried dan y Rhaglen Buddsoddi Adfywio Wedi ei Dargedu.
Mae ar y cyngor ddyletswydd statudol dan Ddeddf Lleoliaeth 2011 i baratoi datganiad polisi cyflog bob blwyddyn.Roedd y datganiad cyntaf ar waith erbyn 31 Mawrth 2012 ac maent wedi’u cynhyrchu bob blwyddyn ers hynny.Bydd cytundeb (ac yna, cyhoeddi) y seithfed Datganiad Polisi Cyflog blynyddol hwn yn sicrhau cydymffurfiaeth barhaus â’r ddeddfwriaeth hon.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 15/03/2018 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 15/03/2018
Effeithiol O: 15/03/2018
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
y bydd y Cabinet yn cymeradwyo’r Datganiad Polisi Tâl 2018/19 atodedig (Atodiad 1) i’r Cyngor ei ystyried ar 22 Mawrth 2018 a nodi:
(i) bod cyfraniadau pensiwn y cyflogwr wedi’u cynnwys yng nghyfrifiad tâl wythnosol cyflogai, lle bo’n briodol
(ii) y bydd angen i’r Cyngor gymryd camau i weithredu newidiadau sy’n dod o’r NJC ar gyfer Tâl Llywodraeth Lleol ar gyfer 2018/20
(iii) cynnwys yr adroddiad Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau
Diben yr adroddiad bydd cael awdurdodiad ffurfiol i ganslo dyledion Ardrethi Annomestig Cenedlaethol sydd werth dros £100,000.Gwneir y cais yn unol â Rhan 3, adran 2, Cyfansoddiad y Cyngor, swyddogaeth gwneud Penderfyniad Gweithredol rhif 20. Mae’r dyledion fydd yn cael eu canslo’n fwy na’r lefel y mae gan swyddogion bwerau dirprwyedig i ymdrin â hwy, ac felly mae angen awdurdodiad y Weithrediaeth.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 15/03/2018 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 15/03/2018
Effeithiol O: 29/03/2018
Penderfyniad:
Ni fydd Atodiadau A a B yr adroddiad hwn yn cael eu cyhoeddi yn rhinwedd Paragraff 14 Rhan 4 a pharagraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972
PENDERFYNWYD: awdurdodi dileu dyledion sy’n dod i £508,959.09.
Materion a drafodir yn y Cynllun Busnes yw:
• nodi diben neu fwriad yr awdurdod fel landlord tai cymdeithasol;
• pennu amcanion a safonau ar gyfer y gwasanaeth;
• cynllunio sut i gyflawni’r amcanion a’r safonau a bennir (y strategaethau);
• cynllunio’r gofynion o ran adnoddau a chyllid;
• cynnig fframwaith ar gyfer monitro a gwerthuso cynnydd y ‘busnes’ tai;
cyfathrebu cynlluniau’r awdurdod gyda'r tenantiaid, LlC, rhanddeiliaid allweddol eraill, partneriaid a'r gymuned
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 15/03/2018 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 15/03/2018
Effeithiol O: 29/03/2018
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
1. y cymeradwyir y Cynllun Busnes CRT 2018-2019.
2. y nodir y cyflwynir y Cynllun cymeradwy i Lywodraeth Cymru.