Cynghorwyr a chyfarfodydd
- Cabinet
- Calendr cyfarfodydd
- Pwyllgorau
- Cynghorau Plwyf
- Cyfansoddiad Cyngor
- Cynghorwyr
- Penderfyniadau
- Canlyniadau Etholiadau
- Cynlluniau Gwaith i’r Dyfodol
- Llyfrgell
- Cyfarfodydd
- Cyrff Allanol
- Cofrestrau
- Cydnabyddiaeth
- Craffu
- Grwpiau Holl Bleidiau’r Cyngor
- Chwilio Dogfennau
- Tanysgrifiwch am ddiweddariadau
- Gweddarlleidiadau
- Eich ACau
- Eich ASau
- Eich ASau Ewropeaidd
- Beth sy'n newydd
Penderfyniadau
Defnyddiwch yr opsiynau chwilio isod ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth yngl?n â’r hyn y mae cyrff penderfynu'r cyngor wedi'i benderfynu yn ddiweddar.
Neu gallwch ymweld â thudalen penderfyniadau swyddogion ar gyfer gwybodaeth am benderfyniadau y mae swyddogion penodol y cyngor wedi'u.
Gallwch hefyd edrych ar grynoadau o’n penderfyniadau.
Cofrestrau Penderfyniad / nid Rhybuddion yn cael eu cyfieithu fel mater o drefn, Os oes angen fersiwn Cymraeg cysylltwch â'r Swyddfa Cabinet ar 02920 872396
16/07/2018 - Contractau Cynllun Lleoliadau Gofal Plant Dechrau'n Deg 2018-2019 ref: 935 Argymhellion Cymeradwy
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 20/07/2018
Effeithiol O: 01/08/2018
Penderfyniad:
Cytunwyd: estyniad blwyddyn o gontractau lleoliadau gofal plant Dechrau’n Deg presennol , o 1 Medi 2018 tan 31 Awst 2019, gyda gwerth amcangyfrifedig o £821,340 i’w gymeradwyo
16/07/2018 - FFRAMWAITH AR GYFER PROFI TRYDANOL 2018/19 ref: 933 Argymhellion Cymeradwy
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 19/07/2018
Effeithiol O: 31/07/2018
Penderfyniad:
CYTUNWYD:
1.gwahodd y sefydliadau y nodir yn Atodiad A eu bod ar y rhestr fer ac yn gymwys i fynd ymlaen i gan nesaf y broses gaffael i dendro
2.cymeradwyo’r ddogfen wahodd i dendro, yn cynnwys y meini prawf cymhwyster, y fframwaith cytundeb drafft a’r atodiadau, a’u cyflwyno i’r sefydliadau a nodir yn Atodiad A.
12/07/2018 - Cynllunio Trefrniadau Ysgolion - Darpariaeth Llefydd Ysgolion Cynradd cyfrwng Saesneg yn ardal Llanrhymni ref: 926 Argymhellion Cymeradwy
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/07/2018 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 16/07/2018
Effeithiol O: 26/07/2018
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD: fod
1. awdurdodi swyddogion i ymgynghori ar gynnig i ddod ag Ysgol Gynradd Glan-yr-Afon i ben o 31 Awst 2019 gan gynnwys newid i ddalgylchoedd ysgol cynradd cymunedol yn yr ardal leol.
2. Nodi y daw swyddogion ag adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad i gyfarfod yn y dyfodol er mwyn ceisio awdurdod i fynd ati i gyhoeddi cynigion yn unol ag adran 48 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.
3. Nodi y byddai unrhyw benderfyniad i ail-ddynodi capasiti Ysgol Gynradd Gatholig Sain Cadog ar gyfer llefydd addysg cynradd yn fater i’w ystyried gan Gorff llywodraethu’r ysgol gydag unrhyw gynnydd parhaol yn gofyn am ymgynghoriad yn unol â gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion.
12/07/2018 - Rhaglen Band B Cyngor Caerdydd yr 21ain ganrif: Capasiti a Llywodraethu. ref: 925 Argymhellion Cymeradwy
Yn y cyfarfod ar 14 Rhagfyr 2017, cadarnhaodd y Cabinet y cynlluniau blaenoriaeth i’w cyflwyno yng Nghaerdydd o dan Fand B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Cytunwyd cyflwyno adroddiad dilynol am yr agweddau hyn ar gyflwyno, er mwyn rhoi sicrwydd bod gan y Cyngor ddigon o adnoddau a gallu llywodraethu priodol i gyflwyno rhaglen sylweddol o’r fath.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/07/2018 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 16/07/2018
Effeithiol O: 26/07/2018
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
1. i nodi’r diweddariad yn yr adroddiad hwn ar faterion amserlennu a chyllido yn gysylltiedig a chyflawni cynlluniau Band B Caerdydd
2. Cymeradwyo creu swydd Cyfarwyddwr Rhaglen – Trefniadaeth Ysgolion ar Tier 2, tymor penodedig o 3 blynedd yn adrodd i'r Cyfarwyddwr Addysg, yn unol â strwythur cyflog y Cyngor ar lefel Cyfarwyddwr Cynorthwyol
3. nodi y bydd Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes yn adolygu swyddi a strwythur y tîm trefniadaeth ysgolion er mwyn sicrhau y capasiti sydd ei angen fel a nodwyd yn yr adroddiad allanol a enwir yn Atodiad 1, o fewn y cyllid sydd eisoes wedi ei gytuno dan Raglen Band B Ysgolion y G21, Adnewyddu Asedau a’r CDLl.
12/07/2018 - Rheoli 'r Ystâd Eiddo Heblaw Tai'r Cyngor - Cofleidio Model Landlord Corfforaethol ref: 930 Argymhellion Cymeradwy
1. Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i sefydlu’n llawn ac i ddod o hyd i adnoddau ar gyfer y Model Cyflawni Landlord Corfforaethol newydd.
2. Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i roi’r camau sy'n weddill ar waith i gwrdd ag argymhellion yr Adolygiad Strategol Annibynnol o'r Ymrwymiadau Statudol ac Iechyd a Diogelwch.
3.
4. Adolygu’r dull o ran Asedau Cymunedol
5. Argymell yr egwyddorion ar gyfer cyflawni'r rhaglen derbynebau cyfalaf wedi’i ehangu i gefnogi’r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a chyflawni’r Cyfalaf ehangach am y 5 mlynedd nesaf.
6. Sicrhau bod gan y Cyngor gynlluniau gwella ac adnoddau wrth gefn ar waith i greu’r Model Landlord Corfforaethol
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/07/2018 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 16/07/2018
Effeithiol O: 26/07/2018
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD: fod
1. argymhellion Adroddiad Gr?p Gorchwyl a Gorffen Adolygu Polisi a Pherfformiad (PRAP) a Chraffu a atodir fel Atodiad F i’r adroddiad i gael ei dderbyn, ac eithrio Argymhelliad 6 a gaiff ei dderbyn yn rhannol fel yr eglurir yn yr adroddiad.
2. bod argymhellion yr adolygiad annibynnol ar Ymrwymiadau Statudol a chydymffurfiaeth iechyd a diogelwch fel a nodwyd yn Atodiad 2 a 3 i’r adroddiad a’r gwaith sy’n mynd rhagddo i fynd i’r afael â’r prif argymhellion, yn cael eu nodi
3. cymeradwyo’r strategaeth a amlinellwyd yn yr adroddiad er mwyn dechrau nodi’r gwarediadau a’r ildiadau er mwyn creu’r derbyniadau cyfalaf sydd eu hangen i ateb gofynion y Cynllun Ariannol Tymor Canolig
4. Cytuno ar y cynigion a wneir yn yr adroddiad hwn i alluogi’r model Landlord Corfforaethol i gael ei roi ar waith yn llawn, gan gynnwys:
a) Rholiadau mwy caeth dros yr holl wariant yn ymwneud ag adeiladau
b) Cyflawni’r holl brojectau adeiladu newydd trwy ddwylo’r tîm Landlord Corfforaethol yn y Gyfarwyddiaeth Ddatblygu Economaidd.
c) Gofyniad i Oblygiadau Eiddo gael eu cynnwys ym mhob Adroddiad Cabinet ac Adroddiadau Penderfyniadau Swyddogion lle ceir effaith ar dir ac adeiladau o eiddo’r Cyngor.
(5) Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, i adolygu y trefniadau uwch reolwyr newydd yn y Gyfarwyddiaeth Ddatblygu Economaidd, gan gynnwys os oes angen ddileu swydd wag y Cyfarwyddwr Cynorthwyol.
12/07/2018 - Polisi Risg Ffyrdd Galwedigaethol ref: 923 Argymhellion Cymeradwy
Mae angen Trwydded Gweithredwyr ar y Cyngor i weithredu ei fflyd o 700+ o gerbydau gan gynnwys Cerbydau Nwyddau Mawr c.85. Mae adolygiad o ofynion cydymffurfiaeth y Drwydded Gweithredwyr wedi nodi nifer o feysydd i’w gwella. Mewn ymateb, cytunwyd y byddai Gweithgor Risg Ffyrdd Galwedigaethol yn cael ei sefydlu ac y byddai Polisi Risg Ffyrdd Galwedigaethol yn cael ei baratoi.
Nod y polisi yw:
- codi ymwybyddiaeth o risgiau ffyrdd galwedigaethol yn y Cyngor, ac
- Egluro cyfrifoldebau a chefnogi gweithlu’r Cyngor, Cyfarwyddwyr/Cyfarwyddwyr Cynorthwyol, Rheolwyr Gweithredol, Rheolwyr a Goruchwylwyr, a gyrwyr i gyflawni safonau uchel o ddiogelwch
i leihau risgiau sy’n gysylltiedig â gyrru a gweithredu cerbydau.
Bydd yn berthnasol i bob cyflogai’r Cyngor, gan gynnwys Aelodau Etholedig, sy’n gyrru cerbydau’r Cyngor/cerbydau wedi’u llogi neu brydlesu a’r rhai hynny sy’n teithio wrth gyflawni busnes y Cyngor neu’n gyrru eu ceir eu hunain.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/07/2018 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 16/07/2018
Effeithiol O: 26/07/2018
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD: fod y Polisi Risg Ffordd Galwedigaethol (atodiad 1 yr adroddiad) i’w awdurdodi a’r gweithredu i’w awdurdodi fel ei fod yn dechrau ar 1 Medi 2018.
12/07/2018 - Ardaloedd Cadwraeth Llandaf a Heol Caerdydd: diddymu hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer dymchwel yn rhannol y ffiniau blaen ref: 932 Argymhellion Cymeradwy
Er mwyn cadw cymeriad neu olwg ardaloedd cadwraeth, gall y Cyngor ddileu hawliau datblygiad a ganiateir ar gyfer amrywiol dai annedd dan Erthygl 4(2), Cynllunio Tref a Gwlad (Gorchymyn Datblygiad a Ganiateir Cyffredinol) 1995 (GDGC).
Mae wedi dod yn amlwg nad yw’r amddiffyniadau cyfredol sydd ar waith i atal waliau terfyn rhag cael eu dymchwel (yn bennaf i alluogi parcio) yn ddigonol er mwyn rheoli’n effeithiol newid yn nwy ardal gadwraeth Llandaf.
Er mwyn mynd i’r afael â hyn, cynigir Cyfeiriadau Erthygl 4(2) ychwanegol i ddileu hawliau datblygiad a ganiateir ar gyfer dymchwel yn rhannol unrhyw ffurf ar dir caeedig yn Ardaloedd Cadwraeth Llandaf a Ffordd Caerdydd (Dosbarth B Rhan 31 Atodlen 2 GDGC). Yna bydd angen caniatâd cynllunio ar newidiadau (ni chodir tâl am y ceisiadau hyn).
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/07/2018 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 16/07/2018
Effeithiol O: 26/07/2018
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD: cymeradwyo ac awdurdodi cyflwyno Cyfarwyddiadau Erthygl 4(2) pellach ar Ardaloedd Cadwraeth Llandaf a Heol Caerdydd i dynnu hawliau datblygu a ganiateir sydd gan dai annedd unigol dan Ddosbarth B Rhan 31 Atodlen 2 Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygiad a ganiateir Cyffredinol) 1995 (fel y’i diwygiwyd) ar gyfer dymchwel y cyfan neu ran o giât, ffens, wal neu ddull arall o amgáu tir t? annedd yn wynebu ar i leoliad perthnasol
12/07/2018 - Uchelgais Digidol Cyngor Caerdydd ref: 927 Argymhellion Cymeradwy
• Trosolwg ar agenda Dewis Digidol yn y
Cyngor
• Dangos y strategaeth ddigidol sy’n datblygu i’r
Cabinet er mwyn enghreifftio sut y cyflawnir Uchelgais Ddigidol
i’r Cyngor ac i Gaerdydd (bydd Strategaeth Ddigidol lawn yn
dilyn yn hwyrach)
• Nodi’r Gwaith a’r llwyddiannau yn y maes hwn hyd
yn hyn
• Disgrifio’r llywodraethu presennol er mwyn gweithredu
newid digidol yn y sefydliad
• Trafod y Gwaith sydd ar y gorwel a ffurf y rhaglen ddigidol
sy’n datblygu.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/07/2018 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 16/07/2018
Effeithiol O: 26/07/2018
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD: fod
1. Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yn hyn ar agenda Ddigidol y Cyngor
2. Cymeradwyo Strategaeth Ddigidol arfaethedig y Cyngor, fel a gynhwyswyd yn Atodiad 1 yr adroddiad
3. Cymeradwyo fframwaith gyffredinol a llywodraethiant cyflawni’r Strategaeth Ddigidol fel y nodwyd yn yr adroddiad, a nodi bod datblygu cynlluniau gweithredu’n barhaus i ddigwydd er mwyn cefnogi rhoi agenda ddigidol y Cyngor ar waith
Prif swyddog: Jo Watkins
12/07/2018 - Strategaeth a Pholisi Rheoli Risg a Sefyllfa Chwarter Pedwar 2017/18 ref: 929 Argymhellion Cymeradwy
Mae ‘Polisi Rheoli Risg, Strategaeth a
Methodoleg’ y Cyngor yn ei le ers 2014. Mae wedi rhoi sylfaen
dda ar gyfer asesu ac adrodd risgiau yn gyson trwy’r
sefydliad.
Mae’r Strategaeth a
Pholisi Rheoli Risg yn Adeiladu ar gryfderau'r drefn rheoli risg
bresennol ac yn rhoi’r ffocws yn sicr ar weithredu i reoli
risg yn addas. Mae’n rhoi egwyddorion canllaw clir ar
lefelau’r risg y gallwn eu cymryd (awch am risg) a lefelau'r
risg rydym yn eu trin a gostwng. Y nod yw sefydlu rheoli risg yn
rhan o’n meddylfryd a phenderfyniadau bob dydd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/07/2018 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 16/07/2018
Effeithiol O: 26/07/2018
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD: cymeradwyo’r Strategaeth a Pholisi Rheoli Risg a nodi cynnwys y Gofrestr Risg Corfforaethol
Prif swyddog: Christine Salter
12/07/2018 - Darparu Gwasanaethau Seibiant Byr Caerdydd yn Nhŷ Ty Storrie ref: 922 Argymhellion Cymeradwy
Yn dilyn adolygiad ar ddarpariaeth gwasanaethau Seibiant Byr yn Nh? Storrie’r Cyngor, mae gwerthusiad opsiynau wedi ei wneud er mwyn ystyried a fyddai darpariaeth gwasanaeth fewnol yn dod â chanlyniadau gwell.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/07/2018 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 16/07/2018
Effeithiol O: 26/07/2018
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
1. Cytuno mewn egwyddor ar drosglwyddiad arfaethedig y gwasanaethau Seibiant Byr i dîm mewnol y Cyngor, fel y nodwyd yng nghorff yr adroddiad, yn amodol ar ganlyniad ymgynghori pellach â rhanddeiliaid gan gynnwys defnyddwyr gwasanaeth; a
2. Dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd y Swyddog Adran 151 a Chyfarwyddwr y Gyfraith a Llywodraethiant, i ddelio â’r holl faterion o bwys er mwyn gwireddu’r cynnig (gyhyd a bod y Gyfarwyddiaeth wedi ystyried canlyniad yr ymgynghori pellach y cyfeirir ato yn argymhelliad 1) gan gynnwys (heb gyfyngiad):-
(i) Cydgysylltu â’r darparwr presennol i gytuno ar ddyddiad cyfleus i bawb i ddwyn y trefniadau cytundebol presennol i ben ac i drosglwyddo darpariaeth y gwasanaeth Seibiant Byr i dîm mewnol y Cyngor;
(ii) Mynd i’r afael â’r holl faterion cysylltiedig, gan gynnwys (heb gyfyngiad) gofrestru eiddo y T? Storrie a therfynu y trefniadau trwydded presennol.
Prif swyddog: Sarah McGill
12/07/2018 - Strategaeth y Gyllideb 2019/20 a'r tymor canolig ref: 928 Argymhellion Cymeradwy
Ystyried strategaeth gyllideb y Cyngor ar gyfer 2019/20
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/07/2018 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 16/07/2018
Effeithiol O: 26/07/2018
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
(1) y cytunir ar egwyddorion y gyllideb y mae'r Adroddiad ar Strategaeth y Gyllideb yn seiliedig arnynt, a’r ymagwedd dargedig i fodloni’r Gofyniad i Leihau’r Gyllideb yn 2019/20 ac ar draws cyfnod y Cynllun Ariannol Tymor Canolig.
(2) Tra’n cydnabod y cytunir ar yr amcanion a osodwyd yn Uchelgais Prifddinas.
(3) bod cyfarwyddiaethau’n gweithio gyda’r Aelod Cabinet Portffolio perthnasol, mewn ymgynghoriad â’r Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol a’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad er mwyn nodi arbedion posibl er mwyn cynorthwyo wrth fynd i’r afael â’r bwlch yn y gyllideb o £34 miliwn ar gyfer 2019/20 a £91 miliwn yn ystod cyfnod y Cynllun Ariannol Tymor Canolig.
(4) Y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, i’w dirprwyo â’r awdurdod er mwyn rhoi unrhyw gynnig ar gyfer arbediad ar waith cyn 2019/20 lle nad oes angen am argymhelliad polisi neu lle mae penderfyniad polisi eisoes wedi ei wneud.
(5) Y Cyngor i ddangos i Gyd-bwyllgorau a chyrff sy’n codi praeseptau ac ardollau ar y Cyngor, lefel yr her ariannol sy’n wynebu’r Cyngor, ac i hyn gael ei ystyried pan fyddont yn datblygu eu cynlluniau ariannol eu hunain ond gan barhau o fewn fframwaith yr amcanion a nodwyd yn Uchelgais Prifddinas.
(6) dirprwyir awdurdod i Gyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad i nodi gofyniad amgen i leihau'r gyllideb ar dderbyn eglurhad pellach o ran cyllid gan Lywodraeth Cymru.
(7) Dirprwyir yr awdurdod i Gyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad i ddiwygio’r Strategaeth Gyllideb, os na fydd y diwygiad hwn yn sylweddol wahanol i’r egwyddorion sylfaenol.
(8) Byddai unrhyw ofyniad i wyro yn sylweddol oddi wrth yr egwyddorion hyn yn gofyn am Adroddiad Strategaeth Gyllidebol i’r Cabinet.
(9) Y Cyngor i geisio datganiadau o ddiddordeb gan swyddogion mewn perthynas â'r cynllun dileu swyddi gwirfoddol erbyn 14 Medi 2018..
(10) Argymell i’r Cyngor i gytuno i fabwysiadu y Fframwaith Amserlen Cyllidebol a osodir yn Atodlen 2 ac y caiff y gwaith a amlinellir ei symud ymlaen gyda'r nod o fwydo paratoadau ar gyfer y gyllideb.
(11) y bydd proses dau gam mewn perthynas ag ymgynghoriad ar gynigion 2019/20.
Bydd hyn yn dechrau gydag Arolwg Holi Caerdydd yn cynnwys adran ar themâu cyllidebol cyffredinol, wedi’u dilyn gan ymgynghoriad mwy manwl ar gynigion 2019/20 yn hwyrach yn yr Hydref, unwaith y bydd rhagor o eglurder ar y sefyllfa o ran sefyllfa cyllido 2019/20.
Prif swyddog: Prif Weithredwr
12/07/2018 - Gorchmynion diogelu Mannau Cyhoeddus - Rheoli Cŵn ref: 924 Argymhellion Cymeradwy
Golygu newidiadau i ddeddfwriaeth fod angen i’r Cyngor lunio Datganiad 1 Polisi ynghylch defnyddio Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus.Mae’r ddeddfwriaeth newydd o blaid ehangu grymoedd gorfodi i waredu ar ymddygiad gwrthgymdeithasol er mwyn sefydlu amgylchedd mwy diogel, glân a chynaliadwy yng Nghaerdydd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/07/2018 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 16/07/2018
Effeithiol O: 26/07/2018
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD: fod
1. Awdurdodi swyddogion i ymgymryd ag ymgynghoriad cyhoeddus 6-12 wythnos ar y cynnig i gyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 i gyflwyno rheoliadau c?n mewn ardaloedd ar draws Caerdydd ac i adrodd yn ôl i’r Cabinet.
2. mae’r ymgynghoriad ar reoliadau c?n yn edrych yn benodol ar:
· atal bawa c?n ym mhob man cyhoeddus sy’n eiddo a/neu yn cael ei gynnal gan y Cyngor,
· eithrio c?n o bob man chwarae amgaeedig, caeau chwarae wedi eu marcio ac Ysgolion, sy’n eiddo i a/neu a gaiff eu cynnal gan Gyngor Caerdydd.
· Gofyniad bod c?n yn cael eu cadw ar gynllyfan ym mhob Mynwent sy’n eiddo i a/neu yn cael ei chynnal gan Gyngor Caerdydd.
· Gofyniad yn caniatáu swyddogion awdurdodedig i gyfarwyddo fod ci(c?n0 yn cael eu rhoi a’u cadw ar gynllyfan os oes angen,
· gosod dirwy cosb benodedig ar gyfer torri’r gorchymyn ar yr uchafswm o £100 a ganiateir.
3. Cymeradwyo diddymu’r is-ddeddfau presennol sy’n gysylltiedig a rheoli c?n yng Nghaerdydd (atodiad i’r adroddiad ).
Prif swyddog: Andrew Gregory
12/07/2018 - Fframwaith Adrodd Blynyddol y Cyngor - Adroddiad Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdod Lleol 2017/18 ref: 931 Argymell Ymlaen i'r Cyngor
Mae gofyn i Gyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol gynhyrchu adroddiad blynyddol ar effeithiolrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae’r adroddiad yn ei hanfod yn ofyn ar awdurdodau, aelodau a swyddogion i ddweud wrth ddinasyddion lleol a rhanddeiliaid allweddol i ba raddau y mae eu trefniadau er mwyn darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol yn gweithio.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/07/2018 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 12/07/2018
Effeithiol O: 12/07/2018
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD: cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdod Lleol 2017/18 gan y Cyngor
Prif swyddog: Sarah McGill
05/07/2018 - Derbyn adroddiad Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc â'r teitl 'Lleoliadau y Tu Allan i'r Sir'. ref: 914 Argymhellion Cymeradwy
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/07/2018 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 06/07/2018
Effeithiol O: 05/07/2018
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD: Derbyn adroddiad Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc o’r enw ‘Lleoliadau y Tu Allan i'r Sir a chyflwyno ateb erbyn mis Tachwedd 2018.
05/07/2018 - Derbyn adroddiad Pwyllgor Craffu Adolygu Polisi a Pherfformiad â'r teitl 'Arweinyddiaeth Cwsmeriaid' ref: 913 Argymhellion Cymeradwy
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/07/2018 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 06/07/2018
Effeithiol O: 05/07/2018
Penderfyniad:
PENDERRFYNWYD: derbyn adroddiad Pwyllgor Craffu Adolygu Polisi a Pherfformiad o’r enw ‘Arweiniad y Cwsmer’ a chyflwyno ateb erbyn mis Tachwedd 2018.
05/07/2018 - Cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2018 ref: 912 Argymhellion Cymeradwy
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/07/2018 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 06/07/2018
Effeithiol O: 05/07/2018
Penderfyniad:
Cymeradwywyd
05/07/2018 - Alldro 2017/18 ref: 918 Argymhellion Cymeradwy
Bydd yr adroddiad yn amlinellu sefyllfa fonitro ariannol cyffredinol y Cyngor mewn perthynas â refeniw a chyfrifon cyfalaf. Bydd hyn yn cynnwys dadansoddiad o’r amrywiadau allweddol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/07/2018 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 06/07/2018
Effeithiol O: 18/07/2018
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
(1) cymeradwyo'r adroddiad a’r camau a wnaed mewn perthynas â chyfrifon y Cyngor yn 2017/18.
(2) nodi y bydd yr adroddiad yn ffurfio Atodlen i adroddiad Datganiadau Ariannol y Cyngor a fydd yn cael ei ystyried yng nghyfarfod y Cyngor ym mis Medi 2018.
05/07/2018 - Cynigion Trefniadau Ysgol: Gwella darpariaeth arbenigol ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol 2018-19 ref: 915 Argymhellion Cymeradwy
Yn ei gyfarfod ar 19 Ebrill 2018, cytunodd y
Cabinet i gyhoeddi hysbysiadau statudol addas i:
• Gynyddu capasiti T? Gwyn fel bod 198 lle yno;
• Estyn yr ystod oedran yn Greenhill o 11-16 i 11-19 a chynyddu capasiti’r ysgol i 64 lle;
• Newid math yr anghenion addysgiadol arbennig y mae Ysgol
Meadowbank yn cynorthwyo;
• Dirwyn y Ganolfan Adnoddau Arbenigol yn Ysgol Allensbank i’w therfyn a chau’r
dosbarth ym mis Gorffennaf 2020 neu pan fo’r holl ddisgyblion
presennol wedi cwblhau eu cyfnod cynradd os yw hynny ynghynt; agor
dosbarth ymyrraeth gynnar wyth lle ar gyfer plant ag anawsterau
lleferydd ac iaith;
• Agor Canolfan Adnoddau Arbenigol yn Ysgol Pwll Coch gyda 10
lle i ddechrau ond gyda phosibilrwydd o estyn hyd at 20 lle yn y
dyfodol wrth i’r galw dyfu.
• Ehangu nifer y
lleoedd yn CAA Ysgol Glantaf i 30 o leoedd.
Mae’r adroddiad hwn er
mwyn rhoi gwybod i’r Cabinet am unrhyw wrthwynebiadau a
dderbyniwyd, ymateb y Cyngor i’r rhain ac argymhellion ar
gyfer gweithredu’r cynigion neu ymateb fel arall.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/07/2018 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 05/07/2018
Effeithiol O: 18/07/2018
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
1. cymeradwyo'r cynigion a nodir ym mharagraff 2 yr yr adroddiad heb eu newid.
2. Yn dibynnu ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru, cymeradwyo‘r cynnig i ymestyn yr ystod oedran yn Greenhill o 11 - 16 i 11 - 19 (mae angen penderfyniad gan Weinidogion Cymru i wneud hyn)
3. Yn amodol ar gymeradwyaeth gan Gorff Llywodraethu Ysgol yr Forwyn Fair: cynnwys adeiladau CAA yng nghynllun Band B ar gyfer adeiladau newydd Ysgol y Forwyn Fair.
4. awdurdodi swyddogion i gymryd camau priodol i weithredu'r cynigion a nodir ym mharagraff 2 yr adroddiad.
5. awdurdodi swyddogion i gyhoeddi’r penderfyniad ymhen 7 diwrnod ar ôl penderfynu ar y cynnig.
6. dirprwyo gwaith cymeradwyo unrhyw gontractau angenrheidiol i’r Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, wedi ymgynghori â'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau a Swyddog Adran 151, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Aelodau Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad ac Addysg a Sgiliau.
Prif swyddog: Nick Batchelar
05/07/2018 - Adroddia dperfformio Chwarter 4 2017-18 ref: 917 Argymhellion Cymeradwy
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi perfformiad y Cyngor ar gyfer Chwarter 4 blwyddyn ariannol 2017-18, gan roi cyfle i’r Cabinet i adolygu perfformiad, i ystyried unrhyw faterion sy’n codi, ac i roi unrhyw gamau adferol a ystyrir yn angenrheidiol ar waith.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/07/2018 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 05/07/2018
Effeithiol O: 05/07/2018
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD: nodi’r sefyllfa bresennol o ran perfformiad, sut mae cyflawni’r prif ymrwymiadau a blaenoriaethau fel yn Chwarter 4, a'r camau sy'n cael eu cymryd i fynd i’r afael â heriau i’r Cyngor.
05/07/2018 - Gwasanaethau Cludiant Corfforaethol ref: 919 Argymhellion Cymeradwy
Mae Gwasanaethau Trafnidiaeth Canolog y Cyngor yn gyfrifol am reoli a chynnal a chadw’r fflyd cerbydau corfforaethol i gynnig y cymorth cerbydau angenrheidiol i alluogi cyfarwyddiaethau’r sefydliad i gyflawni gwasanaethau effeithiol ac ymatebol. Mae gwasanaeth gwneuthuriad wedi’i gynnwys yn rhan o’r ddarpariaeth Gwasanaeth Fflyd. Nod y gweithdy fflyd a’r gweithdy gwneuthuriad yw cynyddu incwm. Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’r dull o ran cynyddu incwm i’r gwasanaethau hyn.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/07/2018 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 05/07/2018
Effeithiol O: 18/07/2018
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
1. nodi’r cynnydd a wnaed o ran gweithredu’r rhaglen wella’r Gwasanaethau Trafnidiaeth Canolog a chytuno gwneud y gwaith pellach angenrheidiol fel y nodir yn yr adroddiad.
2. cytuno ar egwyddor ymchwilio dull newid â’r sector preifat a dirprwyo’r awdurdod i’r Uwch Swyddogion perthnasol mewn ymgynghoriad â’r Aelodau Cabinet perthnasol i ddelio ag unrhyw agwedd ar gomisiynu dull newydd sy’n cynnwys caniatáu contractau ac unrhyw drefniadau cysylltiedig angenrheidiol.
3.
cadw’r Rolls Royce a’r rhif cofrestru ac mai bwriad y Cyngor o ran yr Amgueddfa Moduron Cenedlaethol yw rhoi benthyg y Rolls Royce dros dro gan ddisgwyl ei ddychwelyd i Gaerdydd i’w roi ar ddangos yn barhaol mewn cyfleuster priodol.
05/07/2018 - Strategaeth y Gweithlu 2018-2021 ref: 916 Argymhellion Cymeradwy
Bydd yr adroddiad yn cyflwyno’r strategaeth ar gyfer gweithlu’r Cyngor yn ystod 2018-2021 er mwyn sicrhau bod gennym y sgiliau, y wybodaeth a’r gallu i fodloni gofynion Uchelgais Prifddinas.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/07/2018 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 05/07/2018
Effeithiol O: 18/07/2018
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
1. cytuno ar y Strategaeth Gweithlu 2018-2021 fel y mae yn Atodiad 1 yr adroddiad
2. cytuno ar y newidiadau i’r broses recriwtio fel y manylir ym mharagraff 11 yr adroddiad
I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.