Rôl y Pwyllgor hwn yw craffu, mesur ac adolygu gweithrediad cyffredinol Rhaglen Caerdydd ar gyfer Gwella a pha mor effeithiol ar y cyfan y caiff polisïau, nodau ac amcanion y Cyngor eu gweithredu, gan gynnwys:
Rheoli Busnes y Cyngor a Materion Cyfansoddiadol
Cynllun Corfforaethol Cyngor Caerdydd
Datblygu Polisi Strategol
Rhaglenni Strategol
Fforwm Cynllunio a Gweledigaeth Cymunedol
Cysylltiadau yn y Sector Gwirfoddol
Ymgysylltu ac Ymgynghori â Dinasyddion
Cyfathrebu Corfforaethol
Polisi Rhyngwladol
Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd
Cydraddoldeb
Cyllid a Grantiau Corfforaethol
Datblygu Sefydliadol
Rhaglen Effeithlonrwydd Caerdydd
E-Lywodraeth
ITechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
Eiddo’r Cyngor
Comisiynu a Chaffael
Rheoli Carbon
Gwasanaethau Cyfreithiol
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Craffu, monitro ac adolygu effeithiolrwydd systemau rheoli a gweinyddu ariannol y Cyngor a’r defnydd o adnoddau dynol.
Asesu effaith partneriaethau gyda ac adnoddau a gwasanaethau a ddarperir gan sefydliadau allanol gan gynnwys Llywodraeth Cymru, gwasanaethau ar y cyd llywodraeth leol, Cyrff Cyhoeddus a Ariennir gan Lywodraeth Cymru a chyrff anllywodraethol lled-adrannol ar effeithiolrwydd gwasanaethau’r Cyngor.
Adrodd i gyfarfod priodol y Cabinet neu’r Cyngor ar ei ganfyddiadau a gwneud argymhellion ar fesurau a all wella perfformiad y Cyngor a darpariaeth gwasanaeth yn y maes hwn
Clerc: Andrea Redmond.
Ffôn: 02920 872434
E-bost: a.redmond@caerdydd.gov.uk