Rôl y Pwyllgor yw craffu, mesur a hyrwyddo gwelliant o ran perfformiad y Cyngor o ran darparu gwasanaethau a chydymffurfio â pholisiau, nodau ac amcanion y Cyngor ym maes plant a phobl ifanc, gan gynnwys:
Gwelliant ysgol
Trefnu ysgolion
Gwasanaethau Cymorth Ysgolion
Lles a Chynhwysiant Addysg
Datblygiad Blynyddoedd Cynnar
Anghenion Addysgol Arbennig
Gwasanaethau Llywodraethwyr
Gwasanaethau Cymdeithasol Plant
Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc
Gwasanaethau Ieuenctid a Chyfiawnder
Gwasanaethau Chwarae
Asesu effaith partneriaethau gyda ac adnoddau a gwasanaethau a ddarperir gan sefydliadau allanol gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Cyrff Cyhoeddus a Noddir gan Lywodraeth Cymru, gwasanaethau ar y cyd llywodraeth leol a chyrff anllywodraethol lled-adrannol ar effeithiolrwydd gwasanaethau’r Cyngor.
Adrodd i gyfarfod priodol y Cabinet neu’r Cyngor ar ei ddarganfyddiadau a gwneud argymhellion ar fesurau, a all wella perfformiad y Cyngor a gwasanaethau yn y maes hwn.
Clerc: Mandy Farnham, E-bost: Mandy.Farnham@caerdydd.gov.uk.
Ffôn: 02920 873606
E-bost: Mandy.Farnham@caerdydd.gov.uk