English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Edrych dros

Gwybodaeth ynghylch Cyfansoddiad Cyngor Caerdydd

Mae’r Cyfansoddiad yn nodi sut mae’r Cyngor yn gweithredu, sut y gwneir penderfyniadau a'r gweithdrefnau a ddilynir.  Mae rhai o’r prosesau hyn yn ofynnol o dan y gyfraith, ac mae rhai eraill yn fater i’r Cyngor eu dewis. Daeth y Cyfansoddiad yn weithredol ar 30 Mai 2002 ac fe’i hadolygir a’i addasu o dro i dro gan y Cyngor, fel bo angen. Mae’n bosibl y bydd oedi wrth ddiweddaru’r fersiwn sydd ar y we ond gall staff y Gwasanaethau Cyfreithiol roi gwybod i chi p’un ai'r fersiwn ddiweddaraf o unrhyw ran yw’r un sydd ar ddangos ar y wefan. 

 

Rhennir y Cyfansoddiad yn 15 Erthygl sy’n rhestru’r rheolau sylfaenol sy’n llywodraethu busnes y Cyngor. Darperir gweithdrefnau a chodau ymarfer manylach mewn rheolau a phrotocolau ar wahân ar ddiwedd y ddogfen. 

 

D Marles, Swyddog Monitro Dros Dro sy'n gyfrifol am gadw copi meistr o’r Cyfansoddiad a’i ddiweddaru fel bo angen. 

 

Am gyngor yn y lle cyntaf ac i wneud ymholiadau am y Cyfansoddiad, e-bostiwch gwasanaethaudemocrataidd@caerdydd.gov.uk

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.