Rôl y Pwyllgor yw craffu, mesur a hyrwyddo gwelliant o
ran perfformiad y Cyngor o ran darparu gwasanaethau a chydymffurfio
â pholisiau, nodau ac amcanion y
Cyngor ym maes plant a phobl ifanc, gan gynnwys:
Gwelliant ysgol
Trefnu
ysgolion
Gwasanaethau Cymorth Ysgolion
Lles a
Chynhwysiant Addysg
Datblygiad Blynyddoedd Cynnar
Anghenion Addysgol Arbennig
Gwasanaethau Llywodraethwyr
Gwasanaethau Cymdeithasol Plant
Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc
Gwasanaethau Ieuenctid a Chyfiawnder
Gwasanaethau Chwarae
Asesu
effaith partneriaethau gyda ac adnoddau a gwasanaethau a ddarperir
gan sefydliadau allanol gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Cyrff
Cyhoeddus a Noddir gan Lywodraeth Cymru, gwasanaethau ar y cyd
llywodraeth leol a chyrff anllywodraethol lled-adrannol ar
effeithiolrwydd gwasanaethau’r Cyngor.
Adrodd
i gyfarfod priodol y Cabinet neu’r Cyngor ar ei
ddarganfyddiadau a gwneud argymhellion ar fesurau, a all wella
perfformiad y Cyngor a gwasanaethau yn y maes hwn.