Agenda a Phenderfyniadau

Cabinet - Dydd Iau, 21ain Chwefror, 2019 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd y Sir

Cyswllt: Jo Watkins 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cofnodion Cyfarfodydd y Cabinet a Gynhaliwyd ar 9 a 24 Ionawr pdf eicon PDF 93 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

2.

Cynllun Corfforaethol pdf eicon PDF 163 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.   cymeradwyo Cynllun Corfforaethol 2019-22 i’w ystyried gan y Cyngor ar 28 Chwefror 2019;

 

2.   argymell bod y Cyngor yn dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, i wneud unrhyw newidiadau canlyniadol i Gynllun Corfforaethol 2019-22 (Atodiad A) yn dilyn ystyriaeth gan y Cyngor ar 28 Chwefror 2019 a chyn ei gyhoeddi erbyn 1 Ebrill 2019; a

 

3.   Argymell y Cyngor i ddirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, i benderfynu ar addasiadau canlyniadol i’r Crynodeb Gofod Targedau Perfformiad 2019/20 (Atodiad B) yn dilyn canlyniadau perfformiad chwarter 4 2018/19.

 

3.

Systemau Draenio Cynaliadwy (SDCau) pdf eicon PDF 181 KB

Penderfyniad:

Systemau Draenio Cynaliadwy (SDCau)

PENDERFYNWYD:

 

1.      cymeradwyo sefydlu corff cymeradwyo SDCau yn y Tîm Rheoli Risg Arfordirol

 

2.      dirprwyo cyfrifoldeb Corff Cymeradwyo SDCau i’r Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd er mwyn gallu dirprwyo penderfyniadau i raddau mwy helaeth

 

3.   Dirprwyo awdurdod dros osod lefelu ffioedd disgresiwn sy’n gysylltiedig â’r corff cymeradwyo i’r Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a’r Amgylchedd a’r Swyddog Adran 151.

4.    

 

4.

Premiymau Treth Gyngor pdf eicon PDF 193 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: argymell  bod y Cyngor yn cytuno i godi Premiwm Treth Gyngor o 50% ar anheddau sy’n wag a heb ddodrefn gan fwyaf am gyfnod hwy na 12 mis, o 1 Ebrill 2019.    

 

5.

Monitro Cyllideb - Adroddiad 9 Mis pdf eicon PDF 363 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.   nodi sefyllfa alldro posibl ar sail naw mis cyntaf y flwyddyn ariannol.

 

2.   Gofyn bod yr holl gyfarwyddiaethau sydd ar hyn o bryd yn cofnodi gorwario fel y nodir yn yr adroddiad, i gymryd camau gweithredu i ostwng y gorwario a ragfynegir.

3.    

4.   cymeradwyo, mewn egwyddor, trosglwyddo arian dros ben gwerth £917,000 a ragfynegir i Gronfa Wrth Gefn Strategol y Gyllideb ddiwedd y flwyddyn, yn dibynnu ar sefyllfa alldro 2018/19.

 

6.

Adroddiad Perfformiad Chwarter 3, 2018-19 pdf eicon PDF 157 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: nodi’r sefyllfa bresennol o ran perfformiad, cyflawni ymrwymiadau a blaenoriaethau yn Chwarter 3, a'r camau sy'n cael eu cymryd i fynd i’r afael â materion sy’n achos pryder.

7.

Cynigion ar gyfer Cyllideb 2019/20 pdf eicon PDF 957 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Adroddiad y Gyllideb 2019/20

 

Ni fydd Atodiadau 10(c) yr adroddiad hwn yn cael ei gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i heithrio dan y disgrifiad a geir ym Mharagraffau 14 a 21 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

PENDERFYNWYD:

 

wedi ystyried sylwadau Swyddog Adran 151 mewn perthynas â’r gyllideb ac addasrwydd arian wrth gefn fel sy’n angenrheidiol dan Adran 25 Deddf Llywodraeth Leol 2003, ac wedi ystyried yr ymatebion a dderbyniwyd i’r Ymgynghoriad ar y Gyllideb, mae’r Cabinet yn argymell bod y Cyngor yn gwneud y canlynol:

 

1.0       Gymeradwyo’r cyllidebau Refeniw, Cyfalaf, Cyfrif Refeniw Tai gan gynnwys yr holl gynigion a chynyddu’r Dreth Gyngor gan 4.9% fel y nodir yn yr adroddiad hwn a bod y Cyngor yn cadarnhau'r termau canlynol.

 

2.0       Nodi y cyfrifodd y Cabinet ar 13 Rhagfyr 2018 y nifer canlynol o anheddau ar gyfer blwyddyn 2019/20 yn unol ag Adran 33(5) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992:-

 

a)         145,499 – sef y swm a gyfrifwyd yn unol â Rheoliad 3 Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrif Llinell Waelod y Dreth Gyngor) (Cymru) 1995, fel y’u diwygiwyd, fel isafswm y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn.

 

b)         Llysfaen

c)                    2,409   Pentyrch          3,280

            Radur 3,783

            Sain Ffagan    1,423

            Pentref Llaneirwg 1,828

            Tongwynlais       817

 

y rhifau a ddosbarthwyd yn unol â Rheoliad 6 fel swm llinell waelod Treth Gyngor y flwyddyn ar gyfer anheddau yn rhannau’r ardal y mae eitemau arbennig yn gysylltiedig â nhw.

 

2.1       Cytuno bod y symiau canlynol bellach yn cael eu cyfrif gan Gyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd ar gyfer y flwyddyn 2019/20 yn unol ag Adrannau 32 i 36 Deddf Gyllid Llywodraeth Leol 1992:-

 

a)         Cyfansymu’r symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodir yn Adran 32(2)(a) i (d) (gan gynnwys praeseptau’r Cyngor Cymuned sy’n £396,847).

b)                                                 £1,026,046,847

c)         Cyfansymu’r symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodir yn Adran 32(3)(a) a (c).

£405,161,000

 

d)         Y swm y mae’r cyfanswm yn 2.1(a) yn fwy na’r cyfanswm yn 2.1(b) uchod a gyfrifwyd yn unol ag Adran 32(4) fel y gofyniad ar gyfer cyllideb y flwyddyn.

£620,885,847

 

e)         Cyfansymu’r symiau y mae’r Cyngor yn amcangyfrif y cânt eu talu yn ystod y flwyddyn i Gronfa’r Cyngor mewn perthynas â’r Grant Cynnal Refeniw, cynllun gostyngiad treth gyngor, Ardrethi Annomestig wedi’u hailddosbarthu.

£444,629,480

           

f)          Y swm ar 2.1(c) uchod ond gan dynnu swm 2.1(d) (net y swm ar gyfer rhyddhad diamod o £350,000), i gyd wedi’u rhannu gan y swm ar 2.0(a) uchod, wedi’i gyfrifo yn unol ag Adran 33(1) fel swm sylfaenol y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn.

g)                     £1,213.80

           

           

h)         Cyfansymu swm yr holl eitemau arbennig y cyfeirir atynt yn Adran 34(1).

i)                      £396,847

           

j)          Swm 2.1(e) uchod ond gan dynnu'r canlyniad a geir trwy rannu swm 2.1(f) uchod gan swm 2.0(a) uchod, yn unol ag Adran 34(2) y Ddeddf,  ...  view the full Penderfyniad text for item 7.