English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Neuadd y Sir

Cyswllt: Jo Watkins 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cofnodion y cyfarfodydd Cabinet a gynhaliwyd ar 20 Medi 2018 pdf eicon PDF 123 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

2.

Goblygiadau Posibl Brexit Am Dim Del pdf eicon PDF 221 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: bod

 

1.   cynnwys yr adroddiad yn cael ei nodi

 

2.   gwaith yn parhau drwy Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd i fonitro ac ymateb i unrhyw effaith bosibl ar wasanaethau cyhoeddus yn y ddinas;

 

3.   unrhyw faterion a godir yn rhan o’r adolygiad parhaus o Gynlluniau Parhad Busnes gan Berchnogion Gynlluniau’n cael eu hystyried gan y Cabinet;

 

4.   llythyr yn cael ei anfon at Ysgrifennydd Gwladol Gadael Undeb Ewropeaidd yn gofyn am unrhyw a phob darn o wybodaeth a dadansoddiad, hyd yn oed os yr ystyrir yn gyfrinachol, am effaith y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd dan sefyllfa “Heb Gytundeb”.

 

5.   ystyried adroddiad pellach os a phryd y bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi Asesiadau Risg Cenedlaethol ar effaith Brexit Heb Gytundeb.

 

3.

Model Darparu Newydd ar gyfer Cymorth i Deuluoedd yng Nghaerdydd pdf eicon PDF 438 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: bod

 

1.   dull Cymorth i Deuluoedd i'r dyfodol a nodir yn yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo.

 

2.   Yn unol â Fframwaith Cyllidebol y Cyngor, dylid ymrwymo gwariant hyd at £500,000 mewn perthynas â blynyddoedd y dyfodol er mwyn bodloni gofynion y gwasanaeth newydd a nodir yn yr adroddiad hwn.

 

3.   Dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol (yn unol â’i chyfrifoldeb statudol i sicrhau bod y gwasanaethau ataliol yn mynd ar ôl anghenion gofal a chymorth y boblogaeth) yn unol â’r Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd, Cyfarwyddwr Addysg a Chyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau i gymryd y camau angenrheidiol i weithredu’r Gwasanaeth Cymorth i Deuluoedd Newydd.

 

4.

Adroddiad Cwynion Blynyddol Cyngor Caerdydd 2017-18 pdf eicon PDF 119 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: y byddai cynnwys yr adroddiad yn cael ei nodi.

5.

Adroddiad Lles Statudol Blynyddol Cyngor Caerdydd pdf eicon PDF 145 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: bod

 

1.     dirprwyo awdurdod i'r Prif Weithredwr, ar y cyd â'r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad i wneud unrhyw newidiadau ôl-ddilynol i'r Adroddiad Llesiant Statudol Blynyddol 2017-18 ar ôl derbyn sylwadau gan y Pwyllgor Craffu Adolygu Polisi a Pherfformiad

2.      Yn amodol ar argymhelliad 1, cymeradwyo Adroddiad Llesiant Statudol Blynyddol 2017-18 er ystyriaeth y Cyngor

 

6.

Rheoli Ansawdd Aer Lleol - Adroddiad Cynnydd Ansawdd Aer Blynyddol pdf eicon PDF 3 MB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNWYD: bod yr Adroddiad Cynnydd Blynyddol 2018 yn cael ei gymeradwyo er mwyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.