Lleoliad: Tŷ Dysgu
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Croeso ac Ymddiheuriadau Cofnodion: Croesawodd Y Cyng. Morgan gydweithwyr i’r cyfarfod a chytunwyd ar seibiant byr i ffotograff diweddar o’r Cabinet Rhanbarthol gael ei dynnu.
|
|||||||||||||||||||
Datgan Buddiannau Cofnodion: Nid oedd unrhyw fuddiannau i’w datgan a wnaed ar eitemau ar agenda'r cyfarfod.
|
|||||||||||||||||||
Calendr Cyfarfodydd Cyhoeddus i'r Dyfodol Arfaethedig 2017-2018 Cofnodion: Cytunwyd y câi dyddiadau ar gyfer cyfarfodydd chwarterol cyhoeddus y Cabinet Rhanbarthol eu gosod, gan symud o ddydd Gwener i ddydd Llun yn y dyfodol. Byddai'r Swyddog Rheoli Rhaglen yn cylchredeg dyddiadau arfaethedig i bob Awdurdod i'w cytuno a byddai cyfarfodydd cyhoeddus yn y dyfodol yn cylchdroi er mwyn cael eu cynnal yn Siambrau'r Cyngor ymhlith yr Awdurdodau Partner.
|
|||||||||||||||||||
Partneriaeth Dwf Economaidd Rhanbarthol PDF 116 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Cabinet Rhanbarthol adroddiad ar ran y Cyng. Huw Thomas:-
1. 1. Cymeradwyo cyfansoddiad y Bartneriaeth Twf Economaidd Rhanbarthol. 2. 2. Dirprwyo awdurdod i swyddogion i sefydlu'r Bartneriaeth Twf Economaidd Rhanbarthol ac i ymgymryd â’r broses recriwtio. 3. Cytuno ar gyllid ar gyfer y Bartneriaeth Twf Economaidd Rhanbarthol.
PENDERFYNWYD: cytunwyd bod Cyd-gabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:
a) Yn cymeradwyo’r cynnig sy’n atodedig fel Atodiad 1 i’r Adroddiad, yn amlinellu egwyddorion a chyfansoddiad y Bartneriaeth Twf Economaidd Rhanbarthol (‘REGP’).
b) Dirprwyo awdurdod i Brif Weithredwr Cyngor Caerdydd, mewn ymgynghoriad â chyfarwyddwr Rhaglen y Fargen Ddinesig a’r Corff Atebol (i) i ymgymryd â’r ymarfer recriwtio ar gyfer penodi aelodau Bwrdd yr REGP a (ii) i adrodd yn ôl i’r Cabinet gydag argymhellion o ran yr ymgeiswyr mwyaf addas i’w penodi, er mwyn i’r Cabinet eu cymeradwyo.
c) Dirprwyo awdurdod i Brif Weithredwr Cyngor Caerdydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd Cabinet Rhanbarth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a'r aelod blaen ar gyfer y Bartneriaeth Twf Economaidd Rhanbarthol, er mwyn dewis y panel penodi y cyfeiriwyd ato yn yr adroddiad hwn
d) Ar gyfer blwyddyn ariannol eleni a’r flwyddyn nesaf, dyrannu cyllid o hyd at £30,000 y flwyddyn er mwyn cefnogi sefydlu'r Bartneriaeth Twf Economaidd Rhanbarthol, â chymorth ariannol cyfredol ar gyfer yr REGP yn cael ei ystyried gan y Cabinet Rhanbarthol wrth osod ei Gyllideb Blynyddol.
e) Dirprwyo awdurdod i Brif Weithredwr Cyngor Caerdydd, er mwyn pennu’r gydnabyddiaeth mewn ymgynghoriad â Chadeirydd Cabinet Rhanbarth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a'r aelod blaen ar gyfer y Bartneriaeth Twf Economaidd Rhanbarthol.
|
|||||||||||||||||||
Ni fydd Atodiadau 1A, 1B, 2A, 2B, 3 a 4 yr adroddiad hwn yn cael eu cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i heithrio dan y disgrifiad a geir ym mharagraffau 14, 16 a 21 rhannau 4 a 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Cofnodion: Mae Atodlen Gyfrinachol i’r Cofnod hwn na chaiff ei chyhoeddi oherwydd ei bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig o’r fath a ddisgrifir ym Mharagraffau 14, 16 a 21 rhannau 4 a 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Cynghorydd y Cyng. Morgan y cydweithwyr i nodi, wrth gyfeirio at Eitem Agenda 6, nad oedd Atodlenni 1-6 o’r adroddiad hwn i’w cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig o'r fath a ddisgrifir ym mharaagraffau 14, 16 a 21 rhannau 4 a 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972. Yn hynny o beth, pe bai cydweithwyr yn dymuno trafod materion o fewn yr Atodiadau hynny, byddai’n rhaid i aelodau’r cyhoedd adael tra bod y drafodaeth honno’n cael ei chynnal a gofynnir iddynt ddychwelyd er mwyn clywed crynodeb a phenderfyniad terfynol y Cabinet. Pe bai unrhyw un yn dymuno cynnig bod y cyhoedd yn gadael, gofynnwyd i gydweithwyr egluro hynny fel y gellir eilio'r cynnig a'i gynnig a'i gofnodi'n ffurfiol yn y cofnodion. Cynigiwyd y cynnig a gofynnwyd i aelodau’r cyhoedd adael y trafodion. Ystyriodd y Cabinet Rhanbarthol adroddiad ar ran Cyfarwyddwr Rhaglen y Fargen Ddinesig:-
|
|||||||||||||||||||
Ni fydd Atodiadau 1, 2, 3, 4, 5 a 6 yr adroddiad hwn yn cael eu cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i heithrio dan y disgrifiad a geir ym mharagraffau 14, 16 a 21 rhannau 4 a 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Cofnodion:
Mae Atodlen Gyfrinachol i’r Cofnod hwn na chaiff ei chyhoeddi oherwydd ei bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig o’r fath a ddisgrifir ym Mharagraffau 14, 16 a 21 rhannau 4 a 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Cynghorydd y Cyng. Morgan y cydweithwyr i nodi, wrth gyfeirio at Eitem Agenda 6, nad oedd Atodiadau 1-6 o’r adroddiad hwn i’w cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig o'r fath a ddisgrifir ym mharagraffau 14, 16 a 21 rhannau 4 a 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972. Yn hynny o beth, pe bai cydweithwyr yn dymuno trafod materion o fewn yr Atodiadau hynny, byddai’n rhaid i aelodau’r cyhoedd adael tra bod y drafodaeth honno’n cael ei chynnal a gofynnir iddynt ddychwelyd er mwyn clywed crynodeb a phenderfyniad terfynol y Cabinet. Pe bai unrhyw un yn dymuno cynnig bod y cyhoedd yn gadael, gofynnwyd i gydweithwyr egluro hynny fel y gellir eilio'r cynnig a'i gynnig a'i gofnodi'n ffurfiol yn y cofnodion. Cynigiwyd y cynnig a gofynnwyd i aelodau’r cyhoedd adael y trafodion. Ystyriodd y Cabinet Rhanbarthol adroddiad ar ran Cyfarwyddwr Rhaglen y Fargen Ddinesig:-
PENDERFYNWYD: cytunwyd bod Cyd-gabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:
|