Agenda a chofnodion drafft

Cabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd - Dydd Mawrth, 2ail Mai, 2017 9.30 am

Lleoliad: Tŷ Dysgu

Eitemau
Rhif Eitem

7.

Croeso ac Ymddiheuriadau

8.

Datgan Buddiannau

I’w gwneud ar ddechrau'r Eitem Agenda dan sylw, yn unol â Chod Ymddygiad yr aelodau.

 

 

 

9.

Adroddiad ar Delerau ac Amodau Cyllido Grantiau pdf eicon PDF 109 KB

Derbyn Adroddiad Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol Cyngor Dinas Caerdydd mewn perthynas â derbyn telerau ac amodau trosglwyddo’r grant o Lywodraeth Cymru a Thrysorlys EM i’r Corff Cyfrifol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhif y Cofnod  4                  ADRODDIAD TELERAU AC AMODAU CYLLID GRANT

 

Ystyriodd y Cabinet adroddiad ar ran y Corff Atebol, mewn perthynas â diddymu’r Amod Dilynol yng Nghymal 2.3 y Cydgytundeb Gwaith (JWA) mewn perthynas â chyflawni Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae’r amod hwn yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r Cabinet Rhanbarthol gymeradwyo amodau ariannu Llywodraeth Cymru mewn perthynas â Chyfraniad HMT o fewn chwe (6) mis o'r Dyddiad Dechrau, sef 1 Mawrth.

 
PENDERFYNWYD:

Gwnaeth y Cabinet Rhanbarthol ystyried a chymeradwyo telerau ac amodau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys yr eglurhadau oedd wedi’u cytuno’n ffurfiol; mae’r telerau a’r eglurhadau wedi’u nodi yn Atodiad 2. Yna, cytunwyd y dylid awdurdodi Swyddog Adran 151 Corff Atebol BDDprc i lofnodi’n ffurifol i ddangos eu bod yn derbyn telerau ac amodau ariannu Llywodraeth Cymru ar ran Cydgabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

 

10.

Cynllun Busnes Blynyddol y Gronfa Buddsoddi Ehangach 2017-18 pdf eicon PDF 111 KB

Cofnodion:

Rhif y Cofnod  5                  CYNLLUN BUSNES BLYNYDDOL 2017-2018

 

Gwnaeth y Cabinet Rhanbarthol ystyried adroddiad ar y Cynllun Busnes Blynyddol 2017-2018.


PENDERFYNWYD:

a)       Ar gyfer 2017-2018, y dylid canslo’r holl ofynion am rybudd ymlaen llaw am Gynllun Busnes Blynyddol, a

b)    At ddibenion cydymffurfio â 2.4 a 7.3 y Cydgytundeb Gwaith y dylid cymeradwyo’r Cynllun Busnes Blynyddol 2017-2018, yn Atodiad 1, sy’n cynnwys:

·         Cynllun Pontio 2017-2018 y cytunwyd arno gan y Cabinet Rhanbarthol ar 17 Mawrth 2017;

·         cyllideb (arian wedi’i dderbyn) o £19,257,500 a’r gallu i ymrwymo hyd at £50m (pumdeg miliwn o bunnoedd o gyfraniad HMT) i gefnogi’r cynlluniau, projectau a rhaglenni a nodir yng Nghynllun Gweithredu Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a gymeradwywyd fel rhan o'r JWA, gydag unrhyw gynnig penodol yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet Rhanbarthol;

c)    Nodi os yw’r ymrwymiadau’n fwy na’r arian sydd ar gael yn 2017-
2018, bydd gofyn ymrwymo cyllidebau blynyddol i’r dyfodol;

d)    Cytuno mewn egwyddor i sefydlu dulliau cyflawni priodol, yn ôl y gofyn, i weithredu projectau cymeradwy, megis Awdurdod Arweiniol, Dull Dibenion Arbennig, neu ddull budd y gymuned.

 

 

 

11.

Y Cynnig ar y Project Lled-ddargludydd Cyfansawdd pdf eicon PDF 82 KB

Cofnodion:

Cofnod rhif 6                       CYNNIG PROJECT LLED-DDARGLUDYDD CYFANSAWDD

 

Ni fydd Atodiadau 1, 2, 3a, 3b, 4, 5a, 5b, 6a, 6b a 7 yr adroddiad hwn yn cael eu cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i heithrio dan y disgrifiad a geir ym mharagraffau 14 a 21 rhannau 4 a 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Gwnaeth y Cabinet Rhanbarthol ystyried adroddiad gyda chynnig o'r sector preifat i fuddsoddi cyllid o’r Gronfa Fuddsoddi Ehangach i gefnogi datblygiad Clwstwr Diwydiant Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn y rhanbarth drwy sefydlu safle yn y rhanbarth ar gyfer cynhyrchu a manwerthu penigamp. Cafwyd hefyd gwybodaeth, cyngor a dadansoddiad o’r cynnig i alluogi penderfyniad ar y cynnig buddsoddi hwn ac eglurhad i'r Cabinet Rhanbarthol pam y byddai'r cynnig yn gofyn am greu Cerbyd Dibenion Arbennig i gael safle ac ymgymryd â gwaith cysylltiedig.

 

PENDERFYNWYD: yn amodol ar:-

 

(i)         Gydymffurfiaeth â’r amodau a nodir yn y cyngor arbenigol allanol yn atodiadau cyfrinachol y brif adroddiad,

 

(ii)        Dod i gytundeb ynghyd â Phenawdau Termau y cyfeirir atynt ym Mharagraffau a) a c) isod,

 

(iii)       Penderfyniad ar y materion y cyfeirir atynt ym Mharagraff 10.3 o'r Atodiad 6(a) cyfrinachol (Cynnig Project Lled-ddargludyddion Cyfansawdd), a

 

(iv)       Nodi, mewn perthynas ag un o’r materion y cyfeirir atynt ym Mharagraff 10.3 Atodiad 6(a) cyfrinachol (Cynnig Project Lled-ddargludyddion Cyfansawdd), bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (RhCT) wedi cytuno, mewn egwyddor, i gynnig cyllid at ddibenion llif arian fel y nodir ym Mharagraff 31 yr Adroddiad, drwy'r dull mwyaf hyfyw a chost-effeithlon, ac wrth ystyried budd RhCT a Chynghorau eraill y Fargen Ddinesig ar yr adeg honno ac yn unol â Strategaeth Rheoli'r Drysorlys RhCT.

 

PENDERFYNWYD:

 

Y byddai’r Cabinet Rhanbarthol yn cefnogi datblygiad Clwstwr Diwydiant Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn y rhanbarth drwy sefydlu safle yn y rhanbarth ar gyfer cynhyrchu a manwerthu penigamp drwy:

 

a)      Mynd i mewn i Gytundeb Penawdau Telerau gyda Llywodraeth Cymru ac yna'r trosglwyddiad ar gyfer prynu cyfleuster penodol;

 

b)      Yn unol ag adran 2.4 y JWA, ymrwymo £38.4m o Gyfraniad y HMT i’r Gronfa Fuddsoddi Ehangach ar gyfer gwaith landlordiaid i’r cyfleuster y cyfeirir ato ym Mharagraff a), sefydlu’r adeiladau, gwaith ategol a chostau rheoli a goruchwylio cysylltiedig;

 

c)      Mynd i mewn i gytundeb Penawdau Telerau ar gyfer les 11 mlynedd, ac yna caniatáu les (mewn perthynas â'r cyfleuster y cyfeirir ato ym Mharagraff a), gyda'r prydleswr arfaethedig, gyda phroffil rhentu cam wrth gam ac Opsiwn Prynu hyblyg;

 

d)     Galluogi’r prif brydleswr i fynd i mewn i gytundeb is-lesu; a

 

 

e)    Sefydlu gwobr uniongyrchol ar gyfer y datblygiad ac adeiladu’r cyfleuster.

Yn sgil hyn, caiff Argymhellion a) i e) eu nodi mewn mwy o fanylder yn yr adroddiad a'r atodiadau cyfrinachol i'r adroddiad.

 

Yna, PENDERFYNWYD:

 

f)      Sefydlu, mewn egwyddor, Cerbyd Dibenion Arbennig i weithredu’r cynnig, byddai’r manylion penodol yn destun adroddiad pellach i’r Cabinet Rhanbarthol er cymeradwyaeth;

 

g)     Cyn sefydlu Cerbyd Dibenion Arbennig, cytuno er dibenion parhad, bod Cyngor Sir Fynwy yn dal i weithredu fel Awdurdod arweiniol i symud y mater hwn ymlaen; a

 

h)   Bod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 11.