Lleoliad: Ty Dysgu, Nantgarw
Rhif | Eitem | |
---|---|---|
Cadeirydd Ethol Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod
Cofnodion: Cynigiodd y Cynghorydd B Toomey y dylid enwebu’r Cynghorydd Andrew Morgan yn Gadeirydd. Cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Debbie Wilcox.
PENDERFYNWYD – y byddai’r Cynghorydd Andrew Morgan yn cael ei ethol yn Gadeirydd Cydgabinet Bargen DdinesigPrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
|
||
Croeso ac Ymddiheuriadau am Absenoldeb Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb oedd yn bresennol i gyfarfod cyntaf y Cydgabinet a derbyniwyd yr ymddiheuriadau canlynol:
Y Cynghorwyr Neil Moore, Peter Fox, Keith Reynolds a Phil Bale.
|
||
Datgan Buddiannau I’w gwneud ar ddechrau'r eitem agenda dan sylw, yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau.
Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.
|
||
Adroddiad ar Drefniadau Corff Atebol PDF 230 KB Derbyn Adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cyngor Dinas Caerdydd Cofnodion: Derbyniodd y Cydgabinet adroddiad yn rhoi diweddariad ar rôl y Corff Atebol, rôl y Swyddfa Rheoli Projectau, y goblygiadau cysylltiedig o ran adnoddau a gofynion llywodraethu Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Cynigiwyd y dylid ategu at argymhelliad C i’w gwneud hi’n glir bod y dirprwy arfaethedig, sef Cyfarwyddwr y Rhaglen, yn cynnwys yr awdurdod yn gweithredu darpariaeth gyllideb Datblygu a Chymorth Project Cynnar mewn perthynas â gwerthusiadau buddsoddi project cychwynnol, fel yr amlinellir ym mharagraff 52 o’r adroddiad.
PENDERFYNWYD
a) cymeradwyo’r trefniadau i Gyngor Dinas Caerdydd weithredu swyddogaethau’r Corff Atebol fel y nodwyd yn yr adroddiad hwn.
b) cymeradwyo Cynllun Cyllideb 2017/18, a chyllideb 5 mlynedd Cydgabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad hwn i gynnwys gweithgareddau Swyddfa Rheoli’r Rhaglen a’r Corff Atebol.
c) y dylid dirprwyo Awdurdod i Gyfarwyddwr y Rhaglen a Swyddog Adran 151 Cyngor Dinas Caerdydd i weithredu’r gyllideb a gymeradwywyd yn argymhelliad b) uchod mewn perthynas â’r Swyddfa Ranbarthol a’r Corff Atebol, mewn ymgynghoriad â Phrif Weithredwr arweiniol Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Bydd gwaith Cyfarwyddwr y Rhaglen yn cynnwys gweithredu’r ddarpariaeth gyllideb ar gyfer Cymorth Datblygu Project Cynnar mewn perthynas â dadansoddi buddsoddiad cychwynnol projectau.
d) dyrannu hyd at 3% o’r Gronfa Fuddsoddi Ehangach (dros cyfnod o 20 mlynedd) i ariannu’r costau a’r cyfraniadau sy’n gysylltiedig ag ystod o Gyrff Rhanbarthol a bodloni costau Datblygu a Chefnogi’r Rhaglen, yn dibynnu ar delerau ac amodau ariannu Llywodraeth Cymru.
e) cymeradwyo’r Protocol Llywodraethu yn Atodiad 1.
|
||
Adroddiad ar Gynllun Pontio 2017/18 (tasgau a gweithgareddau) PDF 255 KB Derbyn Adroddiad Cyfarwyddwr Rhaglen Prifddinas-Ranbarth Caerdydd Cofnodion: Bu i’r Cydgabinet ystyried adroddiad yn manylu ar sgôp, tasgau a gweithgareddau i fynd ar ôl yn effeithiol y gofyn am y Cydgytundeb Gwaith (JWA) mewn perthynas â chyflawni Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae’r adroddiad yn rhoi manylion ar raglen waith i fodloni’r gofynion. Bu trafodaeth yn amlinellu’r ffaith bod y JWA yn paratoi ar gyfer Cynllun Busnes Cydgytundeb Gwaith (fel y’i diffinnir yn y JWA), a fydd yn cael ei gyflwyno i bob Cyngor er cymeradwyaeth. Mynegwyd y dyhead i symud yr elfen hon ar y gwaith ymlaen cyn gynted ag sy’n rhesymol bosibl, ac y dylid nodi hyn yn y penderfyniad.
|
||
Adroddiad ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer Bwrdd y Rhaglen PDF 135 KB Derbyn Adroddiad Cyfarwyddwr Rhaglen Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
Cofnodion: Bu i’r Cydgabinet ystyried adroddiad yn rhoi manylion ar ddiben a swyddogaethau Bwrdd Rhaglen Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, roedd yr adroddiad hefyd yn trafod cylch gorchwyl y Bwrdd Rhaglen.
PENDERFYNWYD: y dylid sefydlu Bwrdd Rhaglen Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gyda'r Cylch Gorchwyl a nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad.
|