Lleoliad: Neuadd y Sir
Cyswllt: Jo Watkins
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion y Cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd 2017 PDF 106 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD: bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd yn cael eu cymeradwyo.
|
|
Ymateb i'r Pwyllgor Craffu dan y teitl Adfer Ein Hafonydd PDF 126 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ystyriodd y Cabinet yr ymateb i adroddiad y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol o’r enw Adfer ein Hafonydd. Cynigiwyd bod y rhan fwyaf o’r argymhellion yn cael eu cefnogi mewn egwyddor tra’n nodi'r rheolau gweithredu neu reoliadol cyfyngedig yr oedd gan y Cyngor mewn perthynas â'r materion.
PENDERFYNWYD: cymeradwyo'r ymateb i adroddiad y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol o’r enw Adfer ein Hafonydd (Atodiad A).
Cofnodion: Ystyriodd y Cabinet yr ymateb i adroddiad y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol o’r enw Adfer ein Hafonydd. Cynigiwyd bod y rhan fwyaf o’r argymhellion yn cael eu cefnogi mewn egwyddor tra’n nodi'r rheolau gweithredu neu reoliadol cyfyngedig yr oedd gan y Cyngor mewn perthynas â'r materion.
PENDERFYNWYD: cymeradwyo'r ymateb i adroddiad ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 45. |
|
Euros 2020 Cyflwyno Cynnig Llwybr Cyflym PDF 143 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nid yw Atodiadau’r adroddiad hwn i’w cyhoeddi dan Adran 12A Rhan 4 paragraff 14 a Rhan 5 paragraff 21 Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Nid yw’r penderfyniad hwn yn amodol ar broses alw i mewn gan fod y Prif Weithredwr wedi ardystio ei fod yn un brys gan nad yw unrhyw oedi sy’n debygol o gael ei achosi gan y broses alw i mewn er budd y cyhoedd dan adran 13 Rheolau’r Weithdrefn Graffu. Ymgynghorwyd â Chadeirydd Pwyllgor Craffu’r Economi a Diwylliant ar y mater hwn ac mae wedi cytuno y dylid ardystio’r adroddiad hwn yn un brys.
Derbyniodd y Cabinet adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth brys i Gyngor Caerdydd gefnogi ail-gyflwyno cais 2014 i ddod yn ddinas groeso ar gyfer Twrnamaint Terfynol Pencampwriaeth Pêl-droed Ewropeaidd UEFA yn 2020. Adroddwyd yr amcangyfrifwyd mai £110m fyddai’r budd economaidd i’r ddinas a’r rhanbarth.
PENDERFYNWYD: bod cais Caerdydd i ddod yn un o’r 13 o Ddinasoedd Croeso i gynnal Twrnamaint Terfynol Pencampwriaeth Pêl-droed Ewropeaidd UEFA yn 2020 yn cael ei gefnogi yn amodol ar gymorth ariannol yn cael ei gadarnhau gan yr holl bartneriaid cais.
Cofnodion: Nid yw Atodiadau’r adroddiad hwn i’w cyhoeddi dan Adran 12A Rhan 4 paragraff 14 a Rhan 5 paragraff 21 Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Nid yw’r penderfyniad hwn yn amodol ar broses alw i mewn gan fod y Prif Weithredwr wedi ardystio ei fod yn un brys gan nad yw unrhyw ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 46. |
|
Trefniadau Derbyn Ysgolion 2019/20 PDF 204 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd y Cabinet adroddiad yn cynnwys manylion am ymchwil wedi'i wneud ar feini prawf a threfniadau derbyn i ysgolion gan Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru. Cynigiodd yr adroddiad ymgynghoriad ar ystod o ddewisiadau mewn perthynas â meini prawf derbyn a nodwyd y cyflwynir canlyniadau'r ymgynghoriad i'r ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 47. |
|
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. na weithredir y cynnig trafnidiaeth ysgol wedi gohirio i gynyddu capasiti Ysgol Gynradd Moorland o 2 ddosbarth mynediad i 3 dosbarth mynediad.
2. bod swyddogion yn cael eu hawdurdodi i roi gwybod i’r holl randdeiliaid perthnasol yn unol â gofynion Cod Trefniadaeth Ysgol.
Cofnodion: Dywedwyd wrth y Cabinet fod amcanestyniad ffigurau newydd wedi’u derbyn yn nodi na fyddai’r galw am leoedd mewn ysgolion cynradd Saesneg ar lefelau a ragamcanwyd ym mis Tachwedd 2016 ac felly cynigiwyd na ddylid mynd ymlaen gyda’r cynnig i gynyddu capasiti Ysgol Gynradd Moorland.
PENDERFYNWYD:
1. na weithredir y cynnig ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 48. |
|
Trefniadau Uwch Reolwyr PDF 185 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. wedi ystyried crynodeb yr ymatebion a dderbyniwyd yn rhan o’r broses ymgynghori, cymeradwyo strwythur Haen 1 a Haen 2 newydd yr Uwch Dîm Rheoli fel y nodir yn Atodiad 3 yr adroddiad a manylion arfaethedig am wasanaethau yn rhan o bob rôl cyfarwyddwr fel y nodir yn Atodiad 4 yr adroddiad.
2. cyfeirio’r datganiad dyletswyddau y mae ei angen ar gyfer swyddi newydd; y cymwysterau a'r nodweddion angenrheidiol i'w ceisio yn y person wedi penodi; y telerau ac amodau a thaliad cydnabyddiaeth y swyddi newydd at Bwyllgor Amodau Cyflogaeth y Cyngor ar 22 Tachwedd 2017 i benderfynu arnynt hwy fel sy’n briodol;
3. cyfeirio’r cynnig i greu swydd Cyfarwyddwr Pobl a Chymunedau Corfforaethol newydd a hysbyseb y swydd at y Cyngor Llawn ar 30 Tachwedd 2017; a
4. Yn amodol ar argymhelliad (3) uchod, dirprwyo awdurdod i Bennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, i weithredu strwythur Haen 1 a Haen 2 yr Uwch Dîm Rheoli ac i ddyrannu adnoddau rheolaethol yn ystod y broses bontio, fel sy’n briodol, yn unol ag egwyddorion fel y nodir yn yr adroddiad hwn.
Cofnodion: Wrth ystyried yr eitem hon, nid oedd Uwch Swyddogion (ac eithrio’r Prif Weithredwr) yn bresennol
Derbyniodd y Cabinet gynigion ar fodel Uwch Dîm Rheoli wedi’i ddiwygio y ymgynghorwyd arno gyda chyflogeion, Aelodau ac Undebau Llafur. Gofynnwyd hefyd i gynghorwyr allanol yn y gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau digidol wneud sylwadau. Yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 49. |
|
Adroddiad Monitro'r Gyllideb Mis 6 PDF 328 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. nodi'r sefyllfa alldro posib ar sail chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol a’r camau rheoli sy’n cael eu cymryd i gefnogi hyn. 2. atgyfnerthu’r gofyn ar yr holl gyfarwyddiaethau sydd ar hyn o bryd yn cofnodi gorwario fel y nodir yn yr adroddiad hwn, i roi camau gweithredu ar waith i ostwng y gorwario a ragfynegir.
Cofnodion: Derbyniwyd diweddariad ar sefyllfa monitro ariannol yr awdurdod ar sail chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol. Adroddwyd bod sefyllfa well wedi’i chyflawni ym mis chwech gyda sefyllfa gytbwys yn erbyn cyllideb sy’n cael ei dangos. Roedd manylion o gamau sy’n cael eu cymryd i gyflawni a chynnal y sefyllfa hon ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 50. |
|
Adroddiad Perfformio Chwarter 2 PDF 197 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD: nodi’r sefyllfa bresennol o ran perfformiad, sut mae cyflawni ymrwymiadau a blaenoriaethau fel yn Chwarter 2, a'r camau sy'n cael eu cymryd i fynd i’r afael â heriau sy'n wynebu'r Cyngor.
Cofnodion: Derbyniodd y Cabinet adroddiad a amlinellwyd Perfformiad Cyngor Caerdydd ar gyfer Chwarter 2 yn 2017-18. Roedd yn yr adroddiad manylion am berfformiad ym mhob cyfarwyddiaeth a pherfformiad yn erbyn ymrwymiadau a mesurau yn y cynllun corfforaethol.
PENDERFYNWYD: nodi’r sefyllfa bresennol o ran perfformiad, sut mae cyflawni ymrwymiadau a blaenoriaethau fel ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 51. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD: cymeradwyo Cynllun Creu Economi'r Nos Sy'n Ddiogel a Chroesawgar 2017-2022 (Atodiad A) i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ei ystyried
Cofnodion: Ystyriodd y Cabinet y Cynllun Creu Economi’r Nos Sy’n Ddiogel a Chroesawgar a amlinellwyd strategaeth ar gyfer rheoli economi’r nos yn effeithiol yng Nghaerdydd. Mae’r strategaeth yn nodi sut bydd partneriaid yn cydweithio i adeiladu ar lwyddiant economi’r nos Caerdydd, i sicrhau ei bod yn ddiogel, llwyddiannus a chynhwysol a ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 52. |
|
Datblygu Darpariaeth Gyflogaeth Ledled y Ddinas PDF 164 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. cytuno i‘r dull o ddarparu Gwasanaethau Cyflogadwyedd yn y dyfodol fel y nodir yn yr adroddiad
2. dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid, Tai a Chymunedau i gymryd camau angenrheidiol i weithredu’r gwasanaeth Cyflogadwyedd a threfniadau pontio newydd.
3. awdurdodi swyddogion i adolygu'r agwedd at y rhaglen Creu Cymunedau Gwydn, gan gynnwys ymgynghoriad cyhoeddus, i lywio ffordd ymlaen arfaethedig i’r Cyngor ei hystyried.
Cofnodion: Ystyriwyd adroddiad yn cynnwys cynigion ar gyfer trefniadau newydd ar gyfer darparu gwasanaethau cyflogadwyedd yng Nghaerdydd ynghyd ag ymagwedd arfaethedig at adeiladu cymunedau gwydn. Cynigiwyd y dylai'r Cyngor ddarparu gwasanaethau cyflogadwyedd craidd yn uniongyrchol ledled Caerdydd a nodwyd bod ymateb cadarnhaol i'r ymgynghoriad wedi’i dderbyn.
PENDERFYNWYD:
1. cytuno i‘r dull ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 53. |
|
Partneriaeth Feicio British Cycling a HSBC Core Cities: Rhaglen Caerdydd PDF 169 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Nid yw Atodiad 2 (Cytundeb Partneriaeth) yr adroddiad hwn i’w cyhoeddi dan Adran 12A Rhan 4 paragraff 14 yn unol ag Adran 12A Rhan 5 paragraff 21 Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
PENDERFYNWYD:
1. dod i gytundeb partneriaeth pum (5) mlynedd (gyda dewis i estyn am gyfnod pellach o hyd at dair (3) blynedd) gyda Beicio Prydain dan y telerau sydd yn y cytundeb partneriaeth.
Ymrwymo i roi cyfraniad grant arian cyfatebol blynyddol o £100,000 (i gynnwys rhaniad 50:50 rhwng cyfraniad ariannol ac mewn nwyddau) tuag at y project dan y telerau sydd yn y cytundeb partneriaeth
Cofnodion: Nid yw Atodiad 2 (Cytundeb Partneriaeth) yr adroddiad hwn i’w cyhoeddi dan Adran 12A Rhan 4 paragraff 14 yn unol ag Adran 12A Rhan 5 paragraff 21 Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Ystyriodd y Cabinet adroddiad yn ceisio cytundeb i bartneriaeth pum mlynedd, (gyda’r dewis i estyn am ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 54. |
|
Ymateb i adroddiad Craffu dan y teitl S106 Cyllid ar gyfer Datblygu Projectau Cymunedol PDF 130 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD: bod y Cyngor yn cael ei argymell i gymeradwyo y CCAau Seilwaith Gwyrdd, Safleoedd Mewnlenwi, Cynllunio ar gyfer Iechyd a Llesiant, Estyniadau ac Addasiadau Preswyl, Defnyddiau Bwyd, Diod a Hamdden, Diogelu Busnes a Thir Diwydiannol a Safleoedd a Chyfleusterau Gofal Plant, wedi’u hatodi i’r adroddiad hwn.
Cofnodion:
Ystyriodd y cabinet yr ymateb i adroddiad y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol o’r enw rheoli cyllid adran 106 ar gyfer Datblygu Projectau Cymunedol. Derbyniodd y Cabinet egwyddorion yr argymhelliad proses unigol.
PENDERFYNWYD: cymeradwyo egwyddorion y broses sydd yn argymhelliad y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol a bod Swyddogion yn cael eu cyfarwyddo i ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 55. |
|
Canllaw Cynllunio Atodol PDF 150 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD: cymeradwyo egwyddorion y broses sydd yn argymhelliad y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol a bod Swyddogion yn cael eu cyfarwyddo i adrodd yn ôl i’r cabinet ar ddechrau 2018 gyda manylion llawn am sut gellir sefydlu’r broses a’i chynnal ar ôl hynny fel y crynhoir yn Atodiad A.
Cofnodion: Ystyriodd y Cabinet gymeradwyo y CCAau Seilwaith Gwyrdd, Safleoedd Mewnlenwi, Cynllunio ar gyfer Iechyd a Llesiant, Estyniadau ac Addasiadau Preswyl, Defnyddiau Bwyd, Diod a Hamdden, Diogelu Busnes a Thir a Safleoedd Diwydiannol a Chyfleusterau Gofal Plant cyn i’r Cyngor eu hystyried.
PENDERFYNWYD: bod y Cyngor yn cael ei argymell ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 56. |