English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Manylion y penderfyniad

Prynu eiddo preswyl addas o'r farchnad agored i ehangu darpariaeth y Cyngor o dai i deuluoedd mawr ar gyfer tenantiaethau cymdeithasol ledled Caerdydd.

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Penderfyniad:

Ni chyhoedder Atodiad yr adroddiad hwn gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth wedi’i heithrio fel y disgrifir ym Mharagraff 14, Rhan 4, a Pharagraff 21 Rhan 5 Atodiad 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cytunwyd: y bydd y Cyngor yn bwrw ymlaen â phrynu eiddo addas hyd at gyfanswm gwerth a nodir yn Atodiad 1.  

 

 

Rhesymau dros y penderfyniad:

Rhoi’r gallu i’r adran Cymunedau a Thai i fwrw ymlaen â phrynu eiddo addas a'u cadw yn stoc dai'r Cyngor, cynyddu nifer y cartrefi teulu mwy a fflatiau hygyrch i’w gosod ar lefel rhent cymdeithasol gan ddefnyddio proses ddyrannu’r Cyngor. Mae galw uchel iawn am dai 2, 3 a 4 ystafell wely a fflatiau llawr gwaelod trwy’r ddinas, ond nid oes llawer ar gael. Bydd prynu’r eiddo o’r farchnad agored yn cynyddu ein stoc dai.    

 

 

 

 

 

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 19/07/2018

Dyddiad y penderfyniad: 19/07/2018

Effeithiol O: 31/07/2018

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.