Manylion y penderfyniad

Model Cyflawni Newydd ar gyfer Help a Chymorth i Deuluoedd yng Nghaerdydd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Diben:

Yn dilyn adolygiad o’r trefniadau cymorth cynnar i deuluoedd a phlant, mae cynigion am wasanaethau cymorth teuluol newydd wedi’u datblygu i gynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth cynhwysfawr i deuluoedd.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: bod

 

1.   dull Cymorth i Deuluoedd i'r dyfodol a nodir yn yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo.

 

2.   Yn unol â Fframwaith Cyllidebol y Cyngor, dylid ymrwymo gwariant hyd at £500,000 mewn perthynas â blynyddoedd y dyfodol er mwyn bodloni gofynion y gwasanaeth newydd a nodir yn yr adroddiad hwn.

 

3.   Dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol (yn unol â’i chyfrifoldeb statudol i sicrhau bod y gwasanaethau ataliol yn mynd ar ôl anghenion gofal a chymorth y boblogaeth) yn unol â’r Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd, Cyfarwyddwr Addysg a Chyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau i gymryd y camau angenrheidiol i weithredu’r Gwasanaeth Cymorth i Deuluoedd Newydd.

 

Pobl yr ymgynghorir รข hwy

Mae’rSefydliad Gofal Cyhoeddus wedi’i gomisiynu i adolygu gwasanaethau presennol ac mae hyn yn cynnwys cyfweliadau gyda phrif bartneriaid a rhanddeiliaid fel y gallant gyfrannu’n llawn at yr adolygiad. Mae ychydig o ymgynghoriad wedi’i gynnal hefyd gyda defnyddwyr gwasanaeth a bydd hyn hefyd yn llywio’r adolygiad.

 

Dyddiad cyhoeddi: 12/10/2018

Dyddiad y penderfyniad: 11/10/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 11/10/2018 - Cabinet

Effeithiol O: 24/10/2018

Dogfennau Cefnogol: