Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Yn unol â’r ddeddfwriaeth, gall y cwmni geisio benthyciadau gan y Cyngor yn unig.Mae benthyciad o £2 miliwn wedi ei gynnwys yn rhan o raglen Cyfalaf y Cyngor ar gyfer prynu cerbydau.Yn ogystal, mae angen £1.8 miliwn i alluogi’r cwmni i gynnig arian cyfatebol a sicrhau Grant Adran Drafnidiaeth o £5.7 miliwn tuag at 36 o fysus trydanol a seilwaith cysylltiedig.Mae hyn yn rhan o nifer o fesurau i wella ansawdd aer.Mae sicrhau’r holl gyllid yn ofyniad er mwyn derbyn telerau ac amodau grant yr Adran Drafnidiaeth.
PENDERFYNWYD:
1. cymeradwyo benthyciad i Fws Caerdydd gan y Cyngor am £2.0m ar gyfer prynu cerbydau trydan yn amodol ar gasgliad cytundeb cyfreithiol, gan gynnwys trefniadau diogelwch priodol rhwng y Cyngor a Bws Caerdydd mewn perthynas â thelerau’r benthyciad
2. Yn unol â Fframwaith Cyllidebol y Cyngor, ceisio cymeradwyaeth bellach cheisio gan y Cyngor lle bo angen ac, os yn briodol, o ran ymrwymiadau gwariant ac yn unol ag amodau grant yr Adran Drafnidiaeth am fenthyciad pellach i Fws Caerdydd gwerth £1.8 miliwn.
3. dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau mewn ymgynghoriad â’r Cyfarwyddwr Llywodraethu a Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad i baratoi a chasglu’r trefniadau cyfreithiol rhwng y Cyngor a Bws Caerdydd mewn perthynas â benthyciadau a gymeradwywyd.
Dyddiad cyhoeddi: 13/06/2019
Dyddiad y penderfyniad: 13/06/2019
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 13/06/2019 - Cabinet
Effeithiol O: 26/06/2019
Dogfennau Cefnogol: