English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Manylion y penderfyniad

Meysydd Canmlwyddiant

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Diben:

Yng nghyfarfod y Cabinet ar 13 Rhagfyr 2018, penderfynwyd cymeradwyo cyflwyno Gerddi Grange a Gerddi Alexandra dan fenter Caeau’r Canmlwyddiant, a chyda hyrwyddo gan Fields In Trust, yn amodol ar ymgynghoriad â rhanddeiliaid ac aelodau’r ward leol.

Fel rhan o’r broses ymgynghori, cymeradwyodd y Cabinet yr hysbyseb ar gyfer gwerthu dau safle yn unol â’r adran berthnasol yn Neddf Llywodraeth Leol 1972. Rhoddwyd yr hysbyseb yn y Western Mail ar 8 Chwefror 2019 a rhoddwyd rhai hefyd mewn mannau amlwg yn y ddau safle.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: awdurdodi’r Cyfarwyddwr Llywodraethu a Gwasanaethau Cyfreithiol, mewn ymgynghoriad â swyddogion gwasanaethau priodol eraill a Fields in Trust, i gwblhau’r gwaith o enwi’r safleoedd a nodir yn yr adroddiad hwn yn Caeau’r Canmlwyddiant.

Dyddiad cyhoeddi: 18/04/2019

Dyddiad y penderfyniad: 18/04/2019

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 18/04/2019 - Cabinet

Effeithiol O: 02/05/2019

Dogfennau Cefnogol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.