English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Manylion y penderfyniad

Caffael Offer Ffatri Mawr ar gyfer Rheoli Gwastraff

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Penderfyniad:

CYTUNWYD: i

 

1.      Ddechrau ar gaffael offer trwm o fewn rheoli gwastraff

 

2.      Gymeradwyo cwmpas y caffael gan gynnwys ond heb ei gyfyngu i hyd arfaethedig y contract, y meini prawf gwerthuso a’r pwysoli fel a nodwyd yn yr adroddiad

 

3.      Gymeradwyo dechrau’r caffael drwy gyhoeddi’r OJEU a’r ddogfennaeth gaffael

 

Rhesymau dros y penderfyniad:

Bydd y caffael hwn yn disodli’r trefniant llogi yn y fan a’r lle (y tu allan i gontract) gyda chytundeb llogi 5 mlynedd penodedig gan gynnwys cymorth a chynnal a chadw. Bydd hyn yn sicrhau fod trefniant gydymffurfiol ar gyfer offer trwm yn ei le a bod yr adran yn gallu dangos gwerth am arian.

 

Mae’r manylebau ar gyfer offer arbenigol yn fanwl tu hwnt lle bydd ansawdd yn ofyniad sylweddol. Bydd yr ymagweddu hwn yn golygu y bydd y contractau yn denu partner/iaid sy’n gallu cynnig y cymorth sydd ei angen er mwyn gweithio gyda’r Cyngor dros gyfnod y caffael nesaf er mwyn bod yn hyblyg a chynnig gwasanaeth cadarn.

 

Dyddiad cyhoeddi: 30/11/2018

Dyddiad y penderfyniad: 29/11/2018

Effeithiol O: 12/12/2018

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.